Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/167

Gwirwyd y dudalen hon

"Chwi wyddoch, Sarah, er bod amgylchiadau bydol, mewn ffordd o siarad, yn cymryd fy holl amser, oherwydd fod bywoliaeth llawer teulu yn dibynnu arnaf, chwi wyddoch, meddaf, fod fy nghalon gyda chwi—'rwyf yn bresennol yn yr ysbryd, er yn absennol o ran y corff, ac 'rwyf yn meddwl na pherffeithir chwithau hebof finnau hefyd." Ac ychwanegai'r Capten, oherwydd fy mod yn cydweled yn hollol â'r hyn y mae eglwys Bethel wedi ei wneud—sef dewis Mr. Simon i'n gwasanaethu, nid wyf yn gweled, meddaf, y buasai'n wahanol, hyd yn oed pe buaswn yn yr holl gyfarfodydd, oblegid fe ŵyr pawb fy mod bob amser yn bleidiol i fugeiliaeth eglwysig, a'm bod, ar fwy nag un achlysur, wedi dangos yr afresymoldeb i ni, mwy nag un enwad arall, fod yn amddifad o weinidog—cwbl rydd oddi wrth ofalon bydol—i edrych ar ôl lles ysbrydol yr aelodau a'r gymdogaeth yn gyffredinol."

Rhoddai'r mynegiad hwn a'r cyffelyb fodlonrwydd i Mrs. Trefor fod eglwys Bethel wedi ei chadw rhag gwneud camgymeriad, er nad oedd y Capten wedi ei helpu â'i gynghorion.

"Sarah," meddai'r Capten ryw ddiwrnod, "er nad yw'n hamgylchiadau y peth fuont, nid gweddus i ni ddangos un math o oerfelgarwch tuag at ein gweinidog, a gwell a fyddai i chwi ofyn i Mr. Simon ddyfod yma i gael tamaid o swper gyda Mr. Huws a Mr. Denman."

Hyfrydwch gan Mrs. Trefor ydoedd gwneud hyn, ac nid annifyr gan Mr. Simon gydsynio, oblegid clywsai fod Capten Trefor yn ŵr o ddylanwad yn y gymdogaeth, a hyd yn hyn, ni feddai ond cydnabyddiaeth amherffaith iawn ag ef a'r teulu. Mae'n wir ei fod wedi sylwi ar Miss Trefor, ac wedi bod yn siarad unwaith neu ddwy â Mrs. Trefor.

Nid drychfeddwl yn unig, erbyn hyn, oedd y fentar newydd, sef gwaith Coed Madog. Yr oedd y Capten wedi gosod amryw ddynion ar waith i sincio, ac eisoes. wedi gwneud allan y planiau, ac mewn gohebiaeth am