PENNOD II
Gweithdy'r Undeb.
AR farwolaeth ei fam, gosodwyd Enoc dan ofal Mrs. Amos, un o'r maethwragedd y cyfeiriwyd atynt yn barod, a dywedid i Mr. Davies roddi swm mawr o arian iddi am gymryd Enoc "allan o'i olwg ac edrych ar ei ôl." Am rai dyddiau ofnid am fywyd Enoc, a churiodd ei gnawd yn dost. Tebyg nad oedd yfed llefrith gwahanol wartheg trwy beipen India rubber yn cyfarfod â'i chwaeth nac yn dygymod â'i gyfansoddiad. Ac er na phryderai neb am hynny, meddyliwyd bod y plentyn ar fedr cychwyn i'r un wlad ag yr aethai ei fam iddi. Yr unig beth a achosai dipyn o flinder i Mrs. Amos oedd ei fod heb ei fedyddio. Buasai iddo farw heb ei fedyddio yn drychineb ofnadwy! yn ei golwg. Ac yn fawr ei ffwdan, aeth at weinidog eglwys y Methodistiaid, lle yr oedd mam Enoc yn aelod. Yr oedd y gŵr hwnnw newydd orffen ei swper, a newydd roi tân ar ei bibell. Derbyniad oer a garw a roddodd efe i Mrs. Amos. Gwrthododd yn bendant symud o'i dŷ, ac ymgroesodd wrth feddwl am gyffwrdd â'r fath lwmp o lygredigaeth ag Enoc. Yna dychwelodd at ei bibell, oedd agos cyn ddued ag Enoc, ac aeth Mrs. Amos ymaith gan sibrwd, "Bydase Mr. Davies heb fynd i ffwrdd, fase fo fawr o wrthod, mi gwaranta fo," a rhoddodd iddo ei bendith, yn ôl ei dull hi o fendithio. Ond ni wyddai Mrs. Amos ddim am y Gyffes Ffydd a'r rheolau disgyblaethol. Wedi hyn, prysurodd y famaeth i dŷ'r gweinidog Wesleaidd gyda'r un apêl. Yr oedd John Wesley Thomas yntau yn berffaith hysbys o'r holl amgylchiadau, ac yn garedig iawn aeth ar unwaith gyda Mrs. Amos a gweinyddodd y sacrament ar y plentyn, gan ei alw ar enw ei dad, yn ôl cyfarwyddyd Mrs. Amos, sef ENOC HUWS. Teimlai'r famaeth yn rhwymedig iawn i Mr. Thomas am y gymwynas hon, ac i ddangos ei theimlad, cynigiodd iddo wydraid o chwisgi fel cydnabyddiaeth fechan am ei