wasg—oblegid wedi tynnu a thynnu, nid oedd fawr well yr olwg na phe rhoid gardas am ganol sached o datws. Ac ni allai Marged, gyda diogelwch, ychwanegu bustle neu dress improver, canys yr oedd y rhannau a addurnir â'r cyfryw bethau eisoes o faintioli mor anghymedrol fel, pe rhoesid rhyw atodiad y buasai hynny'n golygu gorfod lledu allan furiau Siop y Groes. Er hynny, hyfryd odiaeth gan Enoc oedd gweled y gwelliant hwn yn niwyg Marged, oblegid yr oedd yr olwg aflawen gynt fyddai arni, yn rhy fynych wedi bod yn brofedigaeth fawr iddo fwy nag unwaith, ac wedi peri iddo ofni i bobl gredu nad oedd ef yn rhoi o gyflog iddi ddigon i gael dillad gweddus. Wrth weled Marged wedi ymdwtio cymaint, ni allai Enoc lawer pryd beidio â'i chanmol a'i llongyfarch. Yr oedd Enoc yn ŵr mor dirion a hael-galon, fel y bu i waith Marged yn gwrthod yn bendant godiad yn ei chyflog, achosi poen mawr iddo. Gresynai at ei diniweidrwydd, ac yr oedd yn ddyn rhy gydwybodol i gymryd mantais ar hynny. Ni allai Enoc gael tangnefedd i'w feddwl heb wobrwyo Marged mewn rhyw ffurf neu'i gilydd.
Meddai Marged dymer mor rhyfedd, fel yr ofnai ei meistr gynnig anrheg o ddilledyn iddi; ac eto, pa ffordd arall y gallai ddangos ei werthfawrogiad o'i gwasanaeth? Mentrodd un diwrnod, gydag ofn, gynnig iddi anrheg o brooch. Boddhawyd Marged yn ddirfawr—yn wir, gorchfygwyd hi gan ei theimladau, ac ni allai beidio â cholli dagrau. Wrth ganfod ei mawr foddhad, anrhegodd Enoc hi, o dro i dro, ag amryw ddarnau o ddilladau, cyfartal o ran gwerth i swm y codiad yn y cyflog y bwr—iadasai ei roddi iddi. Yr oedd llonder Marged ar dderbyniad yr anrhegion, a'r effeithiau daionus oedd yn dilyn, yn fforddio pleser mawr i Enoc. Un diwrnod, tybiai Enoc fod gwobr yn ddyledus i Marged—yn fwy felly, am ei bod wedi gwrthod yn benderfynol ei chwarter cyflog, gan ddweud wrtho am ei gadw hyd ryw dro arall. Gofynnodd Enoc i Marged beth fuasai hi yn ei ddymuno