Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/179

Gwirwyd y dudalen hon

oes mi wn! Ond mi geiff pawb glywed—mi'ch 'sposia chi i bawb, a chewch chi ddim gneud ffŵl ohono i—mi'ch dyffeia chi!"

"Sut yr ydw i wedi gneud ffŵl ohonoch chi, Marged?" ebe Enoc, a'i dafod cyn syched bron nes glynu yn nhaflod ei enau.

"Sut? sut? sut?" gwaeddai Marged, "ym mhob sut! Ddaru chi ddim dweud bod yn biti 'mod i heb briodi, ag y baswn i'n gneud gwraig splendid?—ddaru chi ddim deud gantoedd o weithiau na fasech chi byth yn dymuno gwell housekeeper?"

"Do," ebe Enoc, "a mi ddeudaf hynny eto, ond sut yr ydw i wedi gneud ffŵl ohonoch chi?

"Y dyn drwg gynnoch chi," ebe Marged, "sut mae gynnoch chi wymed i ofyn ffasiwn gwestiwn i mi? Oeddech chi ddim yn rhoi ar ddallt i mi'ch bod chi'n meddwl amdana i? Ac os nad oeddech chi, pa fusnes oedd gynnoch i ddeud ffasiwn beth?"

Heliodd Enoc at ei gilydd gymaint o wroldeb ag a feddai, ac ebe fe:

"Marged, yr ydech chi wedi'ch twyllo'ch hun—rois i 'rioed sail i chi feddwl y fath beth, mi gymra fy llw, a feddylies i 'rioed fwy am eich priodi nag am briodi boa-constrictor."

Wel y dyn melltigedig!" ebe Marged, "be yn y byd mawr oeddech chi'n i feddwl wrth roi i mi'r holl bresante, heblaw gneud ffŵl ohono i? Ond y mae nhw gen i i gyd, a mi ddôn i gyd i'ch gwymed chi eto! Peidiwch â meddwl y cewch chi 'nhrin i fel ene—mi wnâ i o'r gore â chi, a mi wnâ i chi sticio at ych gair. Ac i be y baswn i'n gwrthod codiad yn 'y nghyflog 'blaw'ch bod chi wedi cystal â deud mai fi fase'ch gwraig chi? Peidiwch â meddwl y cewch chi droi yn ych tresi fel ene! Ac am edliw i mi Boas y conductor, neith nene mo'r tro, Mr. Huws. Mi wn, pan oeddwn i'n perthyn i'w gôr o, 'i fod o wedi meddwl amdana i, ond 'dryches i 'rioed arno fo, a faswn i ddim yn edrach arnoch chithe 'blaw 'mod