Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/181

Gwirwyd y dudalen hon

orfod priodi un ohonoch, fe gawsech chi, Marged, fod yn hen ferch! 'Dydw i'n hidio 'r un daten amdanoch chi, a dalltwch, 'dydw i ddim am ddiodde dim chwaneg o'ch tafod drwg chi, a fe fydd raid i chi hel eich pac oddi yma ar unwaith!"

Pensyfrdanwyd Marged gan eiriau ac ehofndra Enoc. Yr oedd yn beth newydd hollol yn ei gymeriad a'i hanes, a chafodd effaith ddirdynnol arni. Gweithiai ei hwyneb i bob ffurf, lliw a llun—weithiau yn fygythiol, bryd arall yn resynus—agorai ei genau i siarad, a chaeai hi drachefn cyn dweud gair. Wedi mynd drwy gyfres o ystumiau annaearol ac ellyllaidd gollyngodd Marged ei hun i freichiau natur ddrwg—neu, mewn geiriau eraill—cafodd ail ymosodiad o'r hyn a olygai Enoc, yn ei ddiniweidrwydd, yn wasgfa, ond yr hyn, mewn gwirionedd, nad oedd yn ddim amgen na hysteria. Syrthiodd Marged ar ei chefn ar lawr, a dechreuodd gicio a bytheirio fel o'r blaen. Nid estynnodd Enoc un help iddi—ni ddychmygodd am roi llwy yn safn Marged. Yn hytrach, goleuodd gannwyll ac aeth i'w ystafell wely.

Byd a'i gŵyr! yr oedd Enoc Huws yn ddyn da, a chanddo galon mor dyner fel na ddarfu iddo erioed ladd gwybedyn neu gacynen yn ei siop heb deimlo pangfa yn ei gydwybod. Ond y noswaith honno, tra'r oedd ef yn esgyn y grisiau i'w ystafell wely, gobeithiai o waelod ei galon y byddai i Marged gnoi ei thafod yn yfflon cyn y bore!