Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/184

Gwirwyd y dudalen hon

bellach radd o ddiogelwch, ac wedi ymddiosg a myned i'r gwely, cafodd hamdden i ystyried "y sefyllfa."

Nid paradwys hollol fuasai ei fywyd yn flaenorol, a gallai alw i'w gof lawer bwlch cyfyng ac ambell amgylchiad profedigaethus y buasai ynddynt. Ond nid oedd y cwbl gyda'i gilydd yn ddim o'u cymharu â'i sefyllfa bresennol. Yr oedd y meddwl fod Marged wedi tybied ei fod ef wedi dychmygu gwneud gwraig ohoni yn atgas ac anghynnes ganddo. Ac eto, gwelai nad oedd ganddo neb i'w feio am hyn, ond ef ei hun. Nid oedd neb yn adnabod cysêt Marged yn well nag ef ei hun, ac er mwyn cymdogaeth dda a thangnefedd yn ei dŷ, yr oedd yntau wedi ei borthi ers amser. Deuai'r holl eiriau tyner a charuaidd a arferasai o dro i dro gyda Marged er mwyn ei chadw yn ddiddig—deuent yn ôl i'w gof yn awr fel ysguthanod i'w clwydi—geiriau na rôi ef un pwys arnynt wrth eu llefaru, ond a dderbynnid gan Marged, fel y gwelai yn awr, fel geiriau cariadfab. Ac, erbyn iddo ystyried, pa beth oedd yn fwy naturiol nag iddi roddi iddynt ystyr benodol. Da oedd ganddo gofio nad oedd gan Marged un tyst ei fod ef wedi dweud pethau felly. Ond nid oedd hyn ond gwelltyn y dyn wrth foddi, ac ni allai Enoc feddwl am wadu ei eiriau. A dyna'r anrhegion ni allai wadu'r rhai hynny—yr oedd ef ei hun wedi talu amdanynt, ac ni byddai Marged yn brin o dystion i brofi hynny. Cofiai am y difyrrwch a gawsai wrth wrando ar Marged yn adrodd helynt Mr. Swartz yn cael modrwy i'w ffitio. Nid mater chwerthin oedd y digwyddiad hwnnw erbyn hyn. Yr oedd ganddo ryw atgof gwan hefyd o glywed Marged yn galw'r fodrwy yn "migag'd ring." Yr oedd y pethau hyn, wrth eu troi yn ei feddwl, yn anferthol o wrthun, ac ar yr un pryd yn ofnadwy o ddifrifol. Wrth fyned tros ac ail fyned tros y pethau, trôi Enoc yn ei wely o'r naill ochr i'r llall fel anifail â'r cnoi arno.

Megis y tu cefn i'w fyfyrdod, ac yn anferthu'r holl bethau hyn a redai trwy ei feddwl, safai Miss Trefor yn