Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/185

Gwirwyd y dudalen hon

ei phrydferthwch a'i holl swynion diail—yr unig wrthrych daearol yn ei olwg oedd yn werth byw erddo! Wedi'r cwbl, ni buasai'n malio rhyw lawer am y darganfyddiad a wnaethai'r noson honno, oni bai amdani hi. Ni allai na ddeuai hi i wybod am yr holl helynt. Yn wir, meddyliai Enoc, yr oedd yn eithaf amlwg, oddi wrth fygythion Marged, mai ef a'i amgylchiadau a fyddai siarad y gymdogaeth ymhen ychydig ddyddiau os nad ychydig oriau. A pha mor wrthun ac annhebygol bynnag oedd y peth ynddo'i hun, yr oedd digon o bobl bob amser yn barod i gredu pob stori o'r fath, a phan ddangosai Marged yr anrhegion, na allai ef mo'u gwadu—yr oedd yn ddigon posibl y credai pawb y chwedl ffôl. A gredai Miss Trefor? Pa un a gredai hi ai peidio, gwelai Enoc yn eglur y byddai i'r helynt beri iddi ei ddiystyru, os nad ei gasáu, a rhoi pen bythol ar brif amcan ei fywyd. Er mwyn ennill syniadau da, ac os oedd yn bosibl, ennill serch Miss Trefor, yr oedd ef eisoes wedi ymwadu cryn lawer, ac wedi gwario crynswth o arian. Yn ôl cais Capten Trefor, yr oedd yn barod wedi gwario cannoedd o bunnau ar Waith Coed Madog, ac nid oedd ond gwario i fod am beth amser o leiaf.

Heblaw hynny, yr oedd ef wedi prynu ceffyl a thrap a rhoi pris mawr amdanynt, ac wedi eu gosod at wasanaeth Capten Trefor i gymryd Mrs. Trefor—nad oedd yn gref iawn—allan yn awr ac yn y man am awyr iach. Ni buasai ef yn dychmygu am roddi ei arian mewn gwaith mwyn, nac am geffyl a thrap—nad oedd arno eu heisiau—oni bai ei fod yn gobeithio y diweddai'r cwbl drwy ennill ffafr Miss Trefor, ac yr oedd yn barod i wneuthur aberthau mwy os gwelai fod hynny'n paratoi'r ffordd i wneud iddo le yn ei chalon hi. A thybiai, ar adegau, gyda boddhad anhraethol, ei fod yn canfod arwyddion gwan fod ei ffyddlondeb a'i ym—gyflwyniad llwyr i'r amcan neilltuol hwn yn graddol sicrhau iddo fuddugoliaeth hapus. Ond och! dyma'r deml a adeiladodd yn dyfod yn bendramwnwgl am ei ben! a'r trychineb yn dyfod o gyfeiriad na freuddwydiodd