Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/186

Gwirwyd y dudalen hon

ef erioed amdano! Ni allasai ysgorn y Jerichoaid fod yn fwy mingam wrth weled eu caerau ardderchog yn syrthio ar ddim ond chwythu mewn corn hwrdd, na'r eiddo Enoc wrth feddwl fod ei ragolygon gwerthfawr yn cael eu gwneud yn chwilfriw gan lances o forwyn hagr, anwybodus ac anghoeth.

Nid unwaith na dwywaith y meddyliodd Enoc a fyddai'n bosibl, tybed, prynu Marged? A gymerai hi swm go lew o arian am atal ei thafod a mynd ymaith? Prin y gallai Enoc gredu fod hynny'n bosibl, oblegid yr oedd ei gwaith yn gwrthod ei chyflog yn dangos nad oedd hi'n rhoi pris ar arian—hynny yw, fel peth cyfwerth â bod yn wraig iddo ef. Ar yr un pryd, meddyliai Enoc, hwyrach y buasai cynnig iddi hanner cant o bunnau yn peri iddi newid ei thôn. Ond buasai hynny'n ymddangos fel cyfaddef ddarfod iddo ei thwyllo. Eto buasai'n fargen rad pe buasai'n sicr y llwyddai. Yn wir ni buasai'n aros ar hyd yn oed ganpunt ond cael setlo'r mater am byth. Yr oedd Marged yn anllythrennog—a hyd yn oed pe na buasai felly byddai raid cael tyst, a dygai hynny rywun arall i'r gyfrinach—rhywun, hwyrach, a daenai'r stori hyd y gymdogaeth, neu y byddai ef dan ei fawd tra fyddai byw. Ond beth arall oedd i'w wneud? Nid oedd un llwybr arall yn ei gynnig ei hun i feddwl Enoc i ddyfod allan o'r helynt. Gwelai'n eglur nad oedd bosibl ysgoi dwyn rhywun arall i mewn. Rhedai ei feddwl dros restr ei gyfeillion, pryd y cofiodd gydag ing fod Jones, y plismon, eisoes wedi cael cip ar ei sefyllfa. A beth oedd y dyn yn ei feddwl wrth ddweud "yr hen game, Mr. Huws?" A oedd o yn awgrymu rhywbeth am ei gymeriad? "Mae'n sicr bod y dyn yn meddwl rhywbeth felly," ebe Enoc gyda dychryn, ac ymollyngodd yn ei ysbryd i anobaith truenus am allu byth ddyfod o'i brofedigaeth yn anrhydeddus. Er ei fod yn meddu cydwybod bur, yr oedd yr ymddangosiadau o bob cyfeiriad yn ei erbyn, a phrin y gallai ddisgwyl i'w gyfeillion pennaf gredu yn ei ddiniweidrwydd. Teimlai Enoc yn dost