hefyd oddi wrth beth arall, sef y byddai ef, oherwydd gwendid ei nerfau, yn sicr o ymddangos yn llipa ac euog, er ei fod yn berffaith ddiniwed, ac ni allai beidio â gofyn eilwaith pa ffawd ddrwg oedd yn ei ddilyn? Tybiai Enoc fod ambell un mewn amgylchiadau llai profedigaethus wedi gwneud amdano'i hun. A ddaeth y syniad am roddi terfyn ar ei fywyd i'w feddwl? Do, yn sicr ddigon, am foment, a chuddiodd Enoc ei ben dan ddillad y gwely—teimlodd ef ei hunan yn poethi drwyddo, ac yn oeri fel rhew y funud nesaf. Daeth y meddwl iddo, yn ddiamau, o uffern, o'r lle y daw meddyliau felly yn gyffredin, ond i Enoc bu o fendith. Hyd yn hyn yr oedd ei feddyliau wedi ymdroi o'i gwmpas ef ei hun a'i gymdogion; ond yn awr daeth Duw i'w feddwl. Yn wyneb yr amgylchiadau ynglŷn â'i gymdogion teimlai fel un oedd ar gael ei gamddeall a'i gamfarnu. Ond pan ddaeth y meddwl drwg i'w galon cafodd ei hun wyneb yn wyneb â Duw. Gwnaeth hyn i'w feddwl redeg ar linell newydd hollol, a dechreuodd ei holi ei hun onid oedd rhywbeth ynddo ef ei hun yn galw am farnedigaeth? oblegid yr oedd Enoc yng ngwraidd ei galon yn grefyddol yn anad dim. Dechreuodd ei gydwybod edliw iddo ei bechodau. Atgofiodd iddo'r amser pan nad esgeulusai un cyfarfod crefyddol ganol yr wythnos, er ei holl brysurdeb; pan ddarllenai ac y myfyriai lawer ar y Beibl, ac y ceisiai wneud ei orau, yn ei ffordd, dros achos crefydd. A oedd ef wedi cadw at y llwybr hwnnw? Na, yr oedd ei fyfyrdodau bron yn gyfangwbl ers misoedd wedi bod yn ymdroi ynghylch Miss Trefor, Gwaith Coed Madog, a phethau felly. Pan fyddai'r capel a Thŷ'n yr Ardd yn croesi ei gilydd, yr oedd ers amser bellach yn ddieithriad yn ochri at Dŷ'n yr Ardd. Pan fyddai Miss Trefor a chrefydd yn y cwestiwn, Miss Trefor oedd wedi cael y flaenoriaeth. Nid hynny'n unig, ond yr oedd yn ymwybodol ei fod wedi colli llawer o'i ddiddordeb ym mhethau crefydd yn gyffredin, ac oherwydd ei fod wedi gwario llawer ar
Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/187
Gwirwyd y dudalen hon