Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/188

Gwirwyd y dudalen hon

ei dŷ, Gwaith Coed Madog, a phethau eraill, yr oedd wedi cwtogi ei gyfraniadau yn y capel ac at achosion elusennol. Ni châi gymaint o ddifyrrwch yng nghwmni pobl grefyddol, ac erbyn iddo ystyried, ni edrychid arno gyda'r parch a'r hoffter y bu unwaith yn falch ohonynt. Yr oedd amryw o'i gyfeillion wedi pellhau oddi wrtho. Ar y Sul, yn y capel, yr oedd yn ddiweddar yn teimlo bod y gwasanaeth yn rhy hir, ac os byddai cyfarfod brodyr neu gyfarfod athrawon, ni allai feddwl am aros ynddo. Y ffaith oedd—addefai Enoc wrtho'i hun yn ei wely y bore hwnnw—oni byddai'r bregeth y Sul yn hynod gynhyrfus, byddai ei feddyliau ef o ddechrau'r gwasanaeth i'w ddiwedd yn cyniwair ynghylch Miss Trefor, ac yr oedd yn rhoi mwy o bris ar gael cyd-gerdded â hi adref ar fore Sul nag ar y bregeth odidocaf.

Meddyliodd Enoc am yr holl bethau hyn, a meddyliodd yn ddwfn, ac wylodd ddagrau o edifeirwch pur. "Nid rhyfedd," meddai wrtho'i hun, "fod Duw wedi digio wrthyf a'i fod yn fy nghosbi'n llym yn ei ragluniaeth drwy fy ngwaradwyddo yng ngolwg fy nghymdogion a pheri iddynt edrych arnaf mewn gwedd nad wyf yn ei theilyngu." Ond y mae dyn da 'n gallu ymgadarnhau yn holl-wybodaeth Duw, ac er bod Enoc yn teimlo'n euog a phechadurus, cafodd nerth i ymfodloni ychydig yn y ffaith fod Duw'n gwybod y cwbl o'i hanes. Ni fyddai iddo Ef ei gamfarnu na rhoddi yn ei erbyn yr hyn nad oedd yn euog ohono. Canfyddai ynddo ei hun ddirywiad dwfn—dirywiad yr oedd wedi syrthio iddo yn hollol anfwriadol. Wrth garu Miss Trefor yn fawr nid oedd ef wedi bwriadu caru Duw a'i achos yn llai. Ac erbyn hyn, er ei fod yn llym deimlo ei fai—bai na allai beidio ag edrych arno ond fel gwrthgiliad ysbrydol—canfyddai fod y ffordd megis wedi ei chau rhag iddo allu diwygio. Gwelai'r tebygolrwydd, y sicrwydd bron y câi ei ddiarddel. Yr oedd Marged wedi tystio y mynnai ei dorri o'r seiat. Credai'r holl ferched ei thystiolaeth noeth pe na buasai ganddi ddim arall yn ei erbyn. Ond