PENNOD XXVIII
Jones y Plismon
HEN lwynog oedd Jones y Plismon, callach na'r cyffredin o lwynogod; oblegid er bod ganddo gynffon hir a thusw braf arni, yr oedd rywfodd yn medru ei chuddio fel na allai'r ŵydd fwyaf craff a phrofiadol wybod mai llwynog oedd nes teimlo ei chorn gwddf yn ei geg a'i chorpws wedi ei daflu ar draws ei gefn. Yr oedd gan ei dad feddwl lled uchel am Jones er yn hogyn, ac yn rhagweled y byddai iddo ryw ddydd, os câi fyw, dorri ffigiwr nid anenwog yn y byd, fe roddes dipyn o ysgol iddo. A llawer tro y dywedodd ei dad na byddai raid i'w fab ef byth orfod gweithio "ond â'i ben." Er na ddarfu i Jones, tra fu yn yr ysgol, gyflawni disgwyliadau ei dad yn hollol, eto gwnaeth ei farc yno yn y ffurf o graith ar wynebau amryw o'i gydysgolheigion—canys yr oedd Jones yn hogyn cryf, esgyrniog, ac yn meddu ffrâm gymwys iawn i roi cnawd arni pan ddeuai cyfleustra iddo gael ei wala o fwyd a diod, yr hyn na châi y pryd hwnnw yn ei gartref. Meddai amryw oedd yn yr ysgol yr un adeg â Jones atgofion melys amdano fel un na wrthododd erioed rodd i neb na sarhau neb drwy gynnig rhodd iddo. Yn wir, cofiai ei gyfoedion ddarfod i Jones, yn yr ysgol, weithredu'n ewyllysgar fel trysorydd iddynt oll, ac ni wybuwyd i ddim a ymddiriedwyd iddo adael ei ddwylaw. Crydd, wrth ei grefft, ydoedd tad Jones, ac er ei fod yn argyhoeddedig fod Jones wedi ei fwriadu i alwedigaeth uwch, gorfodwyd ef gan amgylchiadau i ddyfod i'r penderfyniad y byddai raid i'w fab ddilyn yr un grefft ag yntau. Ond ni allasai hynny o gŵyr oedd yn siop ei dad gadw Jones wrth y stôl. Yr unig adeg y gwelid Jones yn eistedd yn naturiol ar y stôl oedd pan fyddai'n darllen y papur newydd. Hyn a wnâi weithiau am hanner diwrnod. Da gan ei dad fuasai gweled Jones yn cydio yn ei grefft nes dyfod rhywbeth gwell, ond er hynny difyr oedd ganddo glywed Jones yn darllen hanes mwrdradau