a lladradau o'r papur newydd. Yr oedd diffyg tuedd Jones at waith yn cadarnhau syniad yr hen ŵr ei dad na fwriadwyd Jones i weithio "ond a'i ben." Bu cyd-oddefiad ei dad â dieithrwch Jones i bob caledwaith yn fantais fawr i'w " ddynol natur" ymddatblygu ar raddfa helaeth, heb yr arwydd lleiaf ynddi o grebachdod, a buan yr edrychid arno fel siampl ragorol o'r hil. I ddangos nad oedd yn tueddu at ddiogi nac heb ymwybod â'i nerth, nid anewyllysgar fyddai Jones, ar adegau neilltuol, i gario llwyth o lo i dy gŵr bonheddig, neu i ddadlwytho gwagenaid o flawd i rai o'r siopwyr, ac ni ddisgwyliai un amser fwy na swllt am ei drafferth. Ac wedi cyflawni'r gorchwyl, i ddangos ymhellach nad oedd ef yn ariangar, âi Jones yn syth i'r Brown Cow i wacáu hanner peintiau hyd y parhai'r swllt, ac os digwyddai fod yn y Brown Cow angen troi dyn afreolus a thrystfawr i'r heol, gwnâi Jones hynny hefyd am gydnabyddiaeth isel o geiniog a dimai—neu yn hytrach eu gwerth mewn cwrw, oblegid nid oedd ef yn gofalu am bres. Ac er bod Jones yn fab i grydd, nid oedd dim balchder na ffroenuchelder yn perthyn i'w gymeriad. I brofi hyn, ni ddiystyrai ddal pen ceffyl y ffarmwr mwyaf distadl, er na allai ddisgwyl am ei wasanaeth—"yn wyneb sefyllfa isel amaethyddiaeth "—fwy na cheiniog yn dâl.
Amlygodd Jones yn fore fel hyn rinweddau dinesydd defnyddiol. Yn gymaint a'i fod yn ysgolhaig, gweithredai Jones fel dirprwywr a rhaglaw i'r criwr pan ddigwyddai'r swyddog hwnnw fod oddi cartref neu'n afiach. Ac mor rhagorol y gwnâi'r gwaith fel yr anogwyd ef yn daer gan amryw wŷr dylanwadol i gymryd y busnes hwnnw ar ei wadnau ei hun. Pwyswyd mor drwm ar Jones un tro fel na allai ar ôl dwys ystyriaeth, droi clust fyddar at gais ei gyd—drefwyr heb fod yn euog o anfoesgarwch a dibristod o'u syniadau da amdano. Cydsyniodd. Ond wedi ail ystyried, gwelodd fod yr anturiaeth yn golygu suddo hyn a hyn o arian yn y busnes. Canfu y byddai raid iddo gael cloch, a honno yn un soniarus, a gostiai, o leiaf, wyth