Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/195

Gwirwyd y dudalen hon

Y noswaith y galwyd Jones i Siop y Groes yr oedd ei ddyletswyddau i ddibennu am bedwar o'r gloch y bore, ond gan ei fod ef yn tybio mai buddiol fuasai iddo gael ymgom gyda Mr. Enoc Huws yn gynnar ar y diwrnod, ni thybiodd yn werth y drafferth iddo fyned i'w wely nes iddo'n gyntaf gael gweled Enoc. Synfyfyriodd lawer am yr hyn a welodd ac a glywodd yn Siop y Groes y noson honno, a chredai y gallai ei wasanaeth fod o ddefnydd i'r pleidiau. Adwaenai Enoc Huws yn ddaadwaenai ef fel un o'r dynion diniweitiaf a phuraf ei gymeriad a welodd erioed. Credai yn sicr ei fod yn analluog i gyflawni dim oedd ddianrhydeddus, ac ni allai ddyfalu'r rheswm am yr hyn a welsai ac a glywsai, ac ni allai orffwyso nes ei wneud ei hun yn gyfarwydd â'r holl ddirgelwch. Yr oedd dirgelwch yn beth na allai Jones ei oddef.

Er na chysgodd Enoc winciad y noson honno, arhosodd yn ei ystafell wely heb leihau dim gwerth sôn amdano ar y baricâd nes clywed Marged yn mynd i lawr y grisiau. Yna symudodd yr atalgaer mor ddistaw ag y medrai. Wedi ymolchi, pan aeth at y drych ar fedr cribo ei wallt, dychrynodd wrth yr olwg oedd ar ei wyneb. Yr oedd yn sicr ei fod yn edrych ddeng mlynedd yn hŷn nag ydoedd y dydd cynt. Ond gwaeth na hynny, yr oedd clais du dan ei ddau lygad, effaith y dyrnod a gawsai gan Marged. Yr oedd poenau enaid Enoc wedi bod mor dost ar hyd y nos nes peri iddo gwbl anghofio'r dyrnod hyd y funud yr edrychodd yn y drych. Dygodd hyn, am y canfed tro, holl amgylchiadau'r noson i'w feddwl. Pa fodd y gallai ddangos ei wyneb i neb? Suddodd ei ysbryd yn is nag ydoedd eisoes, os oedd hynny yn bosibl. Wedi cerdded ôl a blaen hyd yr ystafell am ysbaid, a phendroni nid ychydig, gwelodd Enoc na allai wneud dim oedd well na mynd i lawr y grisiau—syrthio ar ei fai o flaen Marged—siarad yn deg â hi—addo popeth iddi (ond ei phriodi) er mwyn ei thawelu a chael amser iddo ef ei hun i hel ei bethau—eu gwerthu—