a gadael y wlad. Yr oedd yn glamp o orchwyl, ond rhaid oedd ei wneud, ac i lawr ag ef. Pan gyrhaeddodd waelod y grisiau llescaodd ei galon, ac yn lle troi i diriogaeth Marged, sef y gegin, trodd i'r parlwr, a phan oedd yn codi llen y ffenestr, y gŵr cyntaf a welodd ar yr heol oedd Jones y Plismon. Pan godir llen ffenestr, y peth mwyaf naturiol i ddyn fydd yn digwydd myned heibio ar y pryd fydd edrych i'r cyfeiriad hwnnw. Felly y gwnaeth Jones. Rhoddodd Enoc nod arno, ystyr yr hwn oedd—" Bore da, Mr. Jones." Camgymerodd Jones y nod a rhoddodd iddo yr ystyr—" Hwdiwch," a chyflymodd at y drws. Gwelodd Enoc fod Jones wedi tybied ei fod yn ei alw. Agorodd Enoc y drws. "Oeddech chi'n galw, Mr. Huws?" gofynnai Jones.
Nac oeddwn," ebe Enoc, "ond dowch i mewn." Aeth y ddau i'r parlwr a chaeodd Enoc y drws.