"'Rwyf yn eich adnabod ers blynydde, Mr. Huws," ebe Jones, a byddai'n ddrwg gennyf awgrymu dim o'r fath beth, byddai'n ddrwg iawn gennyf orfod credu'r peth a ddywedodd y llafnes forwyn yna neithiwr, sef eich bod yn ddyn drwg melltigedig, ond yr ydym ni, y plismyn, yn gweled cymaint nes byddaf, ar adegau, bron colli ffydd ym mhawb, a bron a dweud nad oes un cyfiawn, nac oes un. Ar yr un pryd, byddaf yn gwneud ymdrech i gredu'r gore am bob dyn nes profir tuhwnt i amheuaeth ei fod yn euog."
Er gwneud ei orau i ymddangos yn ddigryn, teimlai Enoc yn sicr fod Jones yn edrych arno fel dyn euog. Fel y gŵyr y darllenydd, dyn gwan ei nerfau oedd Enoc, a gorchfygwyd ef gan ei deimladau, a thorrodd allan i wylo yn hidl, a theimlai yr un pryd fod Jones yn edrych ar ei ddagrau fel dagrau edifeirwch, ac nid fel dagrau diniweidrwydd. Gwelodd y llwynog fod yr ŵydd yn ei feddiant, ac ebe fe yn galonogol:
"Mr. Huws, peidiwch â bod yn ffôl, raid i chi ofni dim yr eith y stori ddim pellach o'm rhan i."
Wedi meddiannu ychydig arno'i hun ebe Enoc braidd yn alaethus ei dôn:
"A allaf i wneud cyfaill ohonoch? a allaf i ymddiried ynoch, Mr. Jones, os dywedaf y cwbl wrthych? "
Datododd Jones dri botwm ar ei got las, gan ddangos darn o hen wasgod ddarfodedig, a botymodd hwynt drachefn yn arwyddluniol o'i allu i gadw cyfrinach, ac ebe fe:
"Pan fydd rhywun yn ymddiried secret i mi, syr, mi fyddaf yn ei roi yna (gan bwyntio ei fys at ei fynwes) ac yn ei gadw yna dan glo."
Yna adroddodd Enoc ei holl hanes ynglŷn â Marged—y byd tost a gawsai gyda hi, gymaint yr oedd wedi gorfod ei oddef a chyd-ddwyn â hi, soniodd am ei thymherau drwg a'i gormes, fel yr oedd ef, er mwyn tangnefedd, wedi rhagrithio drwy ei moli—mewn gair, datguddiodd y cwbl, heb adael allan sôn am Miss Trefor, ac fel yr