oedd ei garedigrwydd at Marged wedi arwain i'r olygfa yr oedd Jones ei hun wedi bod yn dyst ohoni. Yr unig beth a adawodd Enoc allan o'i adroddiad oedd ei waith yn baricadio drws ei ystafell wely, yr oedd ganddo gywilydd sôn am hynny. Wedi gorffen ei stori, teimlai Enoc fel un wedi cael gollyngdod mawr, ac ebe fe wrth Jones:
"Yn awr, pa gyngor ellwch chi ei roi i mi? mi roddaf unrhyw beth i chi, Mr. Jones, os gellwch fy helpio allan o'r helynt yma."
Drwy ystod yr adroddiad, gwrandawai Jones yn astud ac yn llawn diddordeb. Ni chlywsai'r fath hanes yn ei fywyd, a phrin y gallai ymgadw rhag chwerthin. Ni wyddai pe crogid ef, pa un i ryfeddu fwyaf ato, ai ffolineb ai difrifwch Enoc Huws. Gwyddai Jones o'r dechrau fod Enoc cyn ddiniweitied â phlentyn, ac nid oedd oherwydd hynny yn llai diddorol yn ei olwg. Gwelsai ambell ŵydd yn ei oes, ond Enoc oedd yr ŵydd frasaf a welodd erioed, ac eisoes yr oedd aroglau saim yn ei ffroenau. Wedi cymryd arno bwyso'r mater yn ddifrifol yn ei feddwl a gosod ei ben yn gam a synfyfyriol am ychydig eiliadau, ebe Jones yn bwyllog:
"Yr wyf yn gwenieithio i mi fy hun, Mr. Huws, y gwn i pan fydd dyn yn dweud y gwir. Yr wyf wedi cael tipyn o brofiad yn y ffordd yna, ac y mae gwirionedd i'w weled ar wyneb eich stori. Mae'n ddrwg iawn gen i drosoch chi, Mr. Huws, ac os medraf wneud rhywbeth i'ch cael allan o'r helynt yma, mi a'i gwnaf gyda phleser. I ddyn anrhydeddus nid oes dim yn fwy gwerthfawr yn ei olwg na'i garitor. Nid ydyw arian yn ddim i'w gymharu â chymeriad dyn. Fe ŵyr pawb—o leiaf y mae pawb yn gesio erbyn hyn, fod rhywbeth rhyngoch chi a Miss Trefor, ac y mae'n bosibl i ryw helynt fel hyn andwyo eich dyfodol a newid eich program yn hollol. A pheidio â sôn dim am eich cysylltiad â'r capel—y chi ŵyr orau am hynny ni all peth fel hyn beidio ag effeithio ar eich masnach a'ch position yn y dref. Pwy ŵyr, syr,