beth a ddywed llances aflawen o forwyn? Mi ddywedaf i chi beth arall, Mr. Huws, 'dydi o ddim ods beth fydd cymeriad dyn, fe gred y mwyafrif y stori waethaf amdano, a gwaetha bo'r stori, mwyaf parod ydyw rhai pobl i'w chredu. Ond y mae'n rhaid i mi ddweud hyn—esgusodwch fi am ei ddweud—fod peth bai arnoch chi eich hun yn y mater yma. Mae rhai merched, fel y mae rhai ceffylau, na wna dim y tro iddynt ond y chwip, dyna'r unig beth ddaw â nhw atyn eu hunen. Mae ambell geffyl, os rhowch chi gerch iddo, nad oes dim trin arno—rhaid ei gadw ar wair. Mewn ffordd o siarad, Mr. Huws, mae'n bur amlwg i mi eich bod wedi rhoi gormod o gerch i Marged. Bydase chi, pan ddangosodd hi dymer ddrwg gyntaf, wedi dangos y drws iddi, a bygwth ffurfio cydnabyddiaeth rhwng blaen eich troed â rhan neilltuol o'i chorff, 'does dim amheuaeth yn fy meddwl na fase'r llances yn burion erbyn hyn, ac na chawsech chi ddim helynt na thrafferth efo hi o gwbl, yn lle hynny yr ydech chithe wedi rhoi pob moethau iddi fel na 'neith dim y tro ganddi 'rwan ond eich cael chi'n ŵr, neu ynte andwyo eich caritor. Mae hi'n llances ddeugain oed, mi wranta, erbyn hyn, ac anodd iawn, fel y gwyddoch, ydyw tynnu cast o hen geffyl. Ond a wnewch chi ymddiried y mater i mi, Mr. Huws? Mi ddymunwn yn fy nghalon fod o ryw wasanaeth i chi, ond a wnewch chi, Mr. Huws, roi eich case yn fy llaw i?"
"Yr ydech chi'n hynod o garedig, Mr. Jones," ebe Enoc, ac os medrwch chi roi help i mi ddwad allan o'r trybini yma, mi dalaf i chi'n anrhydeddus."
"Peidiwch â sôn am dâl, Mr. Huws," ebe Jones. "Mae rhyw bobl—'dydw i ddim yn awgrymu eich bod chi yn un ohonyn nhw, cofiwch, dim o'r fath beth—ond y mae rhyw bobl yn meddwl mai tâl sydd gan bob plismon o flaen ei lygad bob amser. Maent yn camgymryd, syr. 'Dydw i ddim yn deud, cofiwch, Mr. Huws, na ches i fy nhalu, a fy nhalu yn anrhydeddus ambell waith, am helpio hwn a'r llall allan o helynt, ond ddaru mi