Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/201

Gwirwyd y dudalen hon

erioed ofyn am dâl—erioed yn fy mywyd, er bod cyflog plismon, fel y gwyddoch, yn fychan, yn rhy fychan o lawer pan feddyliwch am ei ddyletswyddau llawer ohonyn yn ddigon anhyfryd—ac yn enwedig pan fydd ganddo deulu go fawr i'w gadw. Ond 'does dim eisiau i mi ddeud pethau fel hyn wrthoch chi, Mr. Huws. Fy mhwnc mawr i yrwan, fel cyfaill a chymydog, ydyw bod o ryw wasanaeth i chi yn eich helynt. 'Dydw i ddim yn deud y galla i lwyddo, ond y mae gen i dipyn o brofiad efo pethau fel hyn. A wnewch chi, Mr. Huws, adael i mi gael fy ffordd fy hun?

"'Rwyf yn fy rhoi fy hun yn eich llaw chi, Mr. Jones, gan eich bod mor garedig," ebe Enoc.

"Purion," ebe Jones. "Mae gen i idea. A ydi'r llances yn ymyl? Ydi hi wedi codi?"

"O ydi, ers meityn, mae hi yn y gegin," ebe Enoc.

"'A ydi hi yn anllythrennog?" gofynnai Jones.

"Feder hi lythyren ar lyfr," ebe Enoc.

"O'r gore," ebe Jones. Arhoswch chi yma nes 'mod i'n galw amdanoch, ac os llwyddith yr idea, ac os bydda i'n galw amdanoch i'r gegin, cofiwch edrych yn filain a phenderfynol, os gellwch."

Agorodd Jones ddrws y parlwr, a chaeodd ef ar ei ôl, ac wrth gerdded ar hyd y lobi hir i gyfeiriad y gegin, oedd â'i drws yn llydan agored, dywedodd â llais uchel, fel y gallai Marged ei glywed: "Waeth i chi heb siarad, Mr. Huws, mae'n rhaid i'r gyfraith gael ei ffordd."

Yr oedd Marged wrthi'n lluchio ac yn trystio, a'r hen dymer ddrwg yr oedd hi wedi ei chadw danodd ers amser yn berwi ynddi, a brws llawr yn ei llaw, pan syrthiodd geiriau Jones ar ei chlyw. Safodd yn sydyn, a buasai'r olwg wyllt, hagr, aflawen a bygythiol oedd arni yn peri i ŵr llai dewr na Jones betruso. Ond nid ofnai Jones ymosodiad, ac ni fwriadai wneud ymosodiad. Cerddodd i'r gegin yn dawel, ond penderfynol, clodd y drws, a dododd yr agoriad yn ei boced. Yna eisteddodd wrth