y bwrdd, palfalodd yn ei logellau am bapur. Wrth balfalu tynnodd allan bâr o handcuffs gloyw (nid arferai Jones gario rhai, yn gyffredin, ond digwyddai'r diwrnod hwnnw fod yn review day,") a gosododd hwynt yn hamddenol ar y bwrdd, a'i staff yr un modd. Hyn oll a wnaeth Jones cyn yngan gair nac edrych ar Marged ond â chil ei lygad. Gwelodd fod ei "idea" yn argoeli yn dda, canys yr oedd Marged fel pe buasai wedi rhewi wrth lawr y gegin, a'i hwyneb yn welwlas gan ofn neu gynddaredd. Wedi lledu darn o hen lythyr ar y bwrdd, a rhoi min ar ei bensil plwm, cododd Jones ei ben, ac edrychodd fel llew ar Marged, ac ebe fe:
"Yrwan am y gyfraith ar y mater. Eich enw ydyw Marged Parry, onid e?"
"Mi wyddoch o'r gore be ydi f'enw i," ebe Marged, gan geisio ymddangos yn ddiofn.
"Purion," ebe Jones. "Beth ydyw eich oed, Marged Parry?"
"Pa fusnes sy gynnoch chi efo f'oed i?" ebe Marged.
"Marged Parry," ebe Jones, "wyddoch chi'ch yn bod llaw'r gyfraith? a bod yn rhaid i chi ateb pob cwestiwn cyn mynd o flaen y magistrate ddeg o'r gloch fore heddiw? Faint ydi hi o'r gloch yrwan (gan edrych ar y cloc)—O, mae digon o amser."
"Be sy nelo'r gyfraith â fi?" ebe Marged, gan bwyso yn drymach ar y brws.
"Beth sydd a nelo'r gyfraith â chi, yn wir?" ebe Jones. "Oni wyddoch chi eich bod wedi torri'r gyfraith, a elwir Act of Parliament for the prevention of cruelties to animals?"
"Be wn i bedi hynny?" ebe Marged.
"Dydw i, cofiwch," ebe Jones, "ddim yn mynd i gyfieithu i chi. Mi gewch ddyn i gyfieithu i chi pan ewch o flaen Gŵr y Plas. Atebwch chi fi, beth ydyw eich oed?"
"'Rydw i'n bymtheg ar hugen," ebe Marged, yn anewyllysgar.