"A'r rest," ebe Jones. "Dwedwch i mi'r gwir, Marged Parry, onid ydych yn bump a deugen?"
Nid atebodd Marged air, ac ebe Jones:
"Mi wyddwn. Very good," a chan adrodd megis wrtho'i hun wrth ysgrifennu ychwanegodd—" I, Marged —Parry,—aged—forty—five—years—last—birthday, etc. Purion. Yrwan, Marged Parry, gwrandewch chi arna i. Wedi gweled a chlywed yr hyn fu yn y tŷ hwn neithiwr, rhwng un ar ddeg a hanner nos, fy nyletswydd fel plismon oedd chwilio i'r mater, gan ei fod yn ôl cyfraith Prydain Fawr ac Iwerddon yn breach of the public peace. Yn awr, ar ôl bod yn siarad â Mr. Huws, yr wyf yn hysbys o'r holl amgylchiadau, ac wedi i mi gael ychydig eiriau gyda chi, Marged Parry, byddwn yn barod i ddwyn yr holl achos o flaen Gŵr y Plas yn y County Hall. Ond i ddechre, eisteddwch i lawr, Marged Parry, achos mi fydd raid i chi sefyll mwy na digon pan ewch i'r Hall. Yr wyf yn deall eich bod yng ngwasanaeth Mr. Hughes, Grocer, Siop y Groes, ers rhai blynyddoedd. Yn ystod y tymor hwnnw—gofalwch chi sut yr atebwch 'rwan—yn ystod y tymor hwnnw a gawsoch chi ryw gam dro gan Mr. Huws?"
"Ddeudes i 'rioed 'mod i wedi cael cam gan Mr. Huws," ebe Marged.
"Purion. Ond gadewch i mi roi hynny i lawr mewn ysgrifen," ebe Jones, gan nodi rhywbeth ar y papur, a brygawthan rhywbeth yn Saesneg. "Yna," ebe fe, "be gwtrin oedd eich meddwl wrth alw Mr. Huws, yn fy nghlywedigaeth i neithiwr, yn ddyn drwg melltigedig? Mae eich casewedi ei benderfynu yn barod—yr ydech yn euog o defamation of character—cyfraith a wnaed yn amser George the Fourth, a'r gosb am ei thorri ydyw dwy flynedd o garchar gyda llafur caled. Ond 'dydi hynny ond rhan fechan o'r gŵyn sydd yn eich erbyn. Yn ystod yr amser y buoch yng ngwasanaeth Mr. Huws, buoch yn euog o anufudd-dod, ac nid hynny yn unig, ond o geisio temtio'ch meistr i ddefnyddio geiriau y