Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/204

Gwirwyd y dudalen hon

gallech wneud defnydd anghyfreithlon ohonynt ar ôl hynny, a hefyd wedi ei orfodi i brynu'ch iawn ymddygiad â gwobrau, ac yr ydech hyd yn oed wedi gwrthod codiad yn eich cyflog, ac, yn wir, eich cyflog dyledus, gydag amcan neilltuol—mewn geiriau plaen, yr ydych wedi rhyfygu meddwl, ac nid yn unig meddwl, ond cystal â dweud bod Mr. Huws â'i lygad arnoch i wneud gwraig ohonoch. Yr idea! Hen wrach aflawen, ddiolwg fel chi yn beiddio meddwl—yn beiddio dychmygu bod gŵr bonheddig fel Mr. Huws, gŵr ieuanc a allai gael y foneddiges harddaf yn y dref yn wraig—gŵr ieuanc cefnog, hardd, respectable, yr idea! meddaf, fod gŵr felly wedi gwario un rhan o ugen o eiliad i feddwl amdanoch chi! Mae'n rhaid eich bod wedi drysu—wedi glân ddrysu yn eich synhwyrau. Ac wrth gofio'r olwg a ges i arnoch neithiwr, â llwy yn eich ceg, yr wyf yn sicr mai wedi drysu yr ydech, ac oherwydd hynny, yr wyf yn tueddu i dosturio wrthych. Marged Parry, gwrandewch beth yr ydw i yn 'i ddweud yrwan. Mae'ch meistr yn gwybod y gallai am y camddefnydd yr ydech wedi ei wneud o'i garedigrwydd, eich rhoi yn y jail, a hynny dan Act of Parliament a elwir Act of Toleration for the High Court of Chancery. Ond y mae'n dda i chi fod gynnoch chi feistr tyner—nid ydyw Mr. Huws yn dymuno'ch carcharu, a'm cyngor i iddo ydyw eich rhoi yn Seilam Dinbech. Ond y mae Mr. Huws yn erbyn gwneud hynny, os addewch chi'ch bihafio'ch hun yn y dyfodol, a seinio cytundeb. Mae'n ymddangos eich bod ar adegau neilltuol—megis pan fydd y lleuad yn ei gwendid—yn gadael i'r ysbryd drwg eich meddiannu, a'r Seilam ydyw'r unig le i giwrio rhai felly. 'Rwyf wedi cymryd ambell un yno, ac y maent yn gwybod sut i'w trin yno. I ddechre, y maent yn eu rhwymo draed a dwylo, ac yn eu rhoi yng nghafn y pwmp, ac yn pympio dŵr arnynt am awr a hanner, ac felly bob dydd, nes iddyn nhw ddwad atyn 'u hunen Ond y mae Mr. Huws yn ddyn trugarog, ac nid ydyw'n fodlon i mi'ch cymryd i'r Seilam, ac y mae'n barod i roi