un treial eto arnoch. Yn awr, Marged Parry, a ydech chi'n barod i addo—os bydd i Mr. Huws drugarhau wrthoch chi, fod yn ufudd i'w orchmynion, peidio â rhoi lle i'r ysbryd drwg yn eich calon, edrych ar ôl ei dŷ a'i gadw yn deidi, a gofyn maddeuant Mr. Huws am i chi ddychmygu ei gael yn ŵr, ac am ei alw yn ddyn drwg melltigedig? Cofiwch y bydd raid i chi fod mewn un o dri lle—yn Siop y Groes yn eneth dda edifeiriol, neu yn y jail, neu yn Seilam Dinbech. Ym mha un o'r tri lle yr ydech am fod, Marged Parry?"
Yr oedd arwyddion o edifeirwch a braw ers meityn ar Marged, ac ebe hi yn drist:
"Well gen i fod yma, a 'dwy'n siŵr na 'neith Mr. Huws mo 'ngyrru i ffwrdd."
"Purion," ebe Jones, "ond rhaid gwneud cytundeb," ac agorodd y drws gan weiddi yn uchel ar Mr. Enoc Huws.
Daeth Enoc i mewn yn llipa a chrynedig—mor grynedig fel y dymunasai Jones yn ei galon roi rhegfa dda iddo.