Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/208

Gwirwyd y dudalen hon

Estynnodd Enoc yr arian i Jones, a chyflwynodd Jones hwynt i Marged, ac ebe fe:

"Yn awr, Mr. Huws, mi wn eich bod yn ddyn tyner a thrugarog. ac na ddymunech chi ddim gwneud niwed i hen ferch ddigartre, na thorri ei charitor; a wnewch chi addo peidio â sôn gair byth wrth neb am yr helynt yma, ar eich gwir yrwan?"

"Sonia i air byth wrth neb, os —," ebe Enoc. "'Does dim os i fod am y peth, Mr. Huws," ebe Jones, yr wyf yn crefu arnoch er mwyn hen greadures fel eich morwyn i beidio â menshon y peth byth wrth neb, achos bydae'r hanes yn mynd allan fe fydde Marged Parry, druan, yn sbort gan bawb. Fydd y llygaid duon yna ddim yn hir yn mendio, a rhaid i chi wneud rhyw esgus—eich bod wedi taro eich pen ym mhost y gwely, neu rywbeth arall, a pheidio â deud ar un cyfrif mai eich morwyn a'ch trawodd pan oedd yr ysbryd drwg yn ei meddiannu. Wnewch chi addo, Mr. Huws? Dowch, byddwch yn ffeind? 'Rwyf yn gwybod nad ydi hi ddim yn haeddu hynny, ond wnewch chi addo cadw'r peth yn ddistaw?"

"Gwnaf," ebe Enoc.

"Yr ydech chi'n un o fil, meddaf eto," ebe Jones. "A 'rwan, Marged Parry, gofalwch chithe arwain bywyd newydd, a pheidio â themtio'ch mistar i adael i'r sôn am yr helynt yma fynd allan, achos bydae o unwaith yn mynd allan, mi fyddech yn sbort i'r plwy, a bydde holl blant y dref yn gweiddi ar eich ôl. A chofiwch chithe, Mr. Hughes, os bydd gennych y gŵyn leia yn erbyn eich morwyn—dim ond y smic lleia—just deudwch wrtha i—yr ydw i'n pasio'ch tŷ bob dydd—a mi ofala i am gael trefn ar bethe—achos cyfraith ydyw cyfraith, ac ni wn i ddim be ddeuthe ohonom ni oni bai am y gyfraith. Wrth gofio, os bydd arnoch eisiau morwyn, y mae gen nith sydd yn First-class housekeeper—yn ysgolores gampus, a ddaw atoch ar ddiwrnod o rybudd, bydae chi'n digwydd bod mewn angen am un. Wel, yrwan, y mae'n rhaid