ohonynt ei lygad chwith—fel pe buasai yn gwneud sbort am ei ben, ac felly y gallai, meddyliai Enoc, oblegid gwyddai fod ganddo dyllau dyfnion, hyllion, o boptu i'w drwyn. Ar yr un pryd, yr oedd yn bur galed fod un o'i lygaid ef ei hun yn cymryd ochr Marged yn ei erbyn, a phrotestiai ynddo ei hun, os gallai ddyfod drwy'r aflwydd hwn, nad anghofiai byth mo'i lygad de am fod yn drwmp iddo hyd y diwedd. Tra oedd ef yn synfyfyrio ar y pethau hyn, wele Marged drachefn yn dweud wrtho ei bod, ar ôl tynnu ei lygaid, wedi anghofio crafu'r tyllau, a phan ddechreuodd hi grafu, neidiodd Enoc yn ei wely a deffrôdd. Deallodd ei fod wedi breuddwydio. Ceisiodd agor ei lygaid, ond ni allai. Dechreuodd amau ai breuddwyd ydoedd. Teimlodd ei lygaid, ac—wel, cofiodd am y biff cul, a dehonglodd hynny ei freuddwyd iddo. Llosgai ei lygaid yn enbyd, ond yr oeddynt yn ei ben, ac nid ar y bwrdd; ac ni theimlodd yn ei fywyd mor ddiolchgar. Neidiodd i'r llawr, ac ymolchodd, a chafodd fod meddyginiaeth Jones wedi ateb y diben.
Am y gweddill o'r prynhawn, ceisiai Enoc ymddangos yn fywiog a phrysur, eto yr oedd yn amlwg i'w gynorthwywyr yn y siop ei fod yn derfysglyd ac absennol ei feddwl. Ni allai lai na'i longyfarch ei hun am y wedd oedd ar ei amgylchiadau o'i chymharu â'r hyn a ofnodd y noson cynt. Teimlai ei fod yn ddyledus i Ragluniaeth am anfon gŵr o fedr a phrofiad Jones i'w dynnu allan o helynt a ymddangosai ychydig oriau yn ôl yn anochel—adwy. Rhedai ei feddyliau yn barhaus i Dŷ'n yr Ardd, ac edrychai ar ei oriawr yn fynych. Nid oedd heb ofni i'r Parch. Obediah Simon wneud argraff ffafriol ar feddwl Miss Trefor, ac felly ei daflu ef ei hun rwd neu ddau ymhellach oddi wrth y nod a osodasai o flaen ei feddwl. Yr oedd Enoc yn ymwybodol yn boenus felly—fod Mr. Simon yn fwy golygus nag ef, ac er nad hynny'n unig a barodd iddo roi ei fôt yn ei erbyn pan oedd galwad Mr. Simon o flaen yr eglwys, eto yr oedd yn rhan o'r swm a barodd