i Enoc benderfynu yn ei feddwl nad Mr. Simon oedd y dyn gorau y gellid ei gael fel gweinidog. Oddi ar yr ychydig ymddiddan a gawsai â Mr. Simon, nid oedd yn fodlon i gydnabod bod ei wybodaeth yn helaethach na'r eiddo ef ei hun, ond gwyddai fod y gweinidog yn fwy parablus nag ef yn fwy diofn a hy, neu fel yr ymsyniai Enoc ynddo ei hun, "mae gen i gystal stoc ag yntau, ond y mae ganddo ef well ffenest." A beidiai Miss Trefor ag edrych ar y ffenest—dyna a flinai Enoc. Nid oedd ef wedi celu oddi wrthi, mewn ymddygiad nac un ffurf, onid mynegiad pendant mewn geiriau, ei hoffter ohoni. Yn wir, yr oedd mewn cant o amgylchiadau wedi dangos ei fod yn gaethwas iddi, gan ddisgwyl yn bryderus, wrth gwrs, iddi hithau ddangos rhyw argoelion ei bod yn gwerthfawrogi ac yn croesawu ei ddiofryd a'i ddefosiwn cyn iddo roi datganiad eglur o'i serch. Ond hyd yn hyn, nid oedd hi wedi rhoi ond ychydig le iddo gasglu ei bod yn deall ei ddyfalwch na'i deimladau tuag ati. Yr unig arwydd er daioni a gawsai Enoc—ac yr oedd yn werthfawr yn ei olwg—oedd na byddai hi'n ddiweddar yn ysgoi ei gymdeithas, nac, ar y cyfan, yn amharchus ohono. Prin yr ymddygai hi felly ato pan ddechreuodd fyned i Dy'n yr Ardd, yn wir, cofiai amser pryd na chollai hi unrhyw fantais i roi ergyd iddo, os gallai sut yn y byd, yr hyn a ddygai arni wg Capten Trefor. Hynny ni wnâi hi yn awr, ond ymddygai ato fel cyfaill i'r teulu. Ond prin y golygai Enoc fod y cyfnewidiad hwn yn ei hymddygiad yn ddigon o gymhelliad i beri iddo wneud ei feddwl yn hysbys iddi, oblegid ystyriai pe gwrthodai hi ei gynigiad—pe dywedai'n bendant nad oedd iddo obaith —wel, yr oedd y meddwl yn gyfryw na allai ei oddef, a gwell a fuasai ganddo dreulio'i oes i fynd a dyfod i ac o Dŷ'n yr Ardd os gallai felly gadw pawb arall draw, serch na allai ef ei hun lwyddo yn ei gais. Ond pa sicrwydd oedd ganddo ef na ddeuai rhywun a chipio ei eilun tra byddai ef yn adeiladu ei allorau? Dim. A hwyrach mai'r Parch. Obediah Simon oedd y gŵr a wnâi hynny.