PENNOD XXXII
Darganfyddiad Sem Llwyd
AR ei ffordd i Dŷ'n yr Ardd yr oedd mynwes Enoc Huws yn llawn eiddigedd. Yr oedd ynddo deimlad anghyfforddus y byddai i'r Parch. Obediah Simon ymddisgleirio ar y swper a'i daflu ef i'r cysgod, a gwneud ei obaith—oedd eisoes yn ddigon gwan—yn wannach nag erioed, a phe buasai Mr. Simon yn y lleuad y noswaith honno yn lle bod yn Nhŷ'n yr Ardd, nid gwaeth fuasai hynny yng ngolwg Enoc. Meddyliasai Enoc lawer y prynhawn hwnnw yn wir, fwy nag erioed—am Mr. Simon, ac wrth ymwisgo orau y gailai cyn cychwyn oddi cartref, ni allai yn ei fyw beidio â'i ddal ei hun o hyd mewn cyferbyniad ag ef. Nid oedd ei syniadau yn uchel am y gweinidog, ond yr oedd Enoc yn ddigon gonest i gydnabod wrtho ei hun nad ydoedd yn feirniad diragfarn. Ar yr un pryd, pan oedd yn cerdded yn gyflym tua Thŷ'n yr Ardd, nid unwaith na dwywaith y dywedodd ynddo ei hun: Wn i ddim yn y byd mawr be mae pobol yn 'i weld yn y dyn—licies i 'rioed mono."
Hwyrach mai tipyn mwy nag arfer o ofal am ei ymddangosiad oedd y rheswm fod Enoc braidd ar ôl yr amser penodedig yn cyrraedd Tŷ'n yr Ardd. Pan agorodd Kit, y forwyn, y drws iddo, ebe hi:
Wel, Mr. Huws, lle 'rydech chi wedi bod tan 'rwan?—mae Miss Trefor yn gofyn o hyd ydech chi ddim wedi dwad."
Yr hen genawes! gwyddai Kit yn burion fod y gair yn werth swllt iddi'r noswaith honno, ac yr oedd yn werth canpunt yng ngolwg Enoc, os ffaith a fynegai Kit. Rhwng Kit a'i chydwybod am y ffaith. Agorodd Kit ddrws y smoke—roam, lle yr oedd Capten Trefor, Mr. Denman, Mr. Simon, Miss Trefor, yn ei ddisgwyl, ac yn eistedd wrth y pentan yn ei ddillad gwaith yr oedd Sem Llwyd, a phawb oddieithr Sem, yn ymddangos fel pe buasent wedi hanner meddwi. Ar ymddangosiad