Enoc cododd pob un—oddieithr Sem—ar ei draed, i ysgwyd llaw ag ef, a Miss Trefor oedd y gyntaf i wneud hynny, ffaith y cymerodd Enoc sylw manwl ohoni, a dangosai pawb, oddieithr Sem, lawenydd na allai Enoc mo'i amgyffred. Ond nid hir—er ei fod dipyn yn hir—y bu ef heb gael rheswm am yr holl lawenydd. Hyfdra digywilydd, tra oedd y Capten yn bresennol, fuasai i neb ond ef ei hun hysbysu Enoc am yr hyn oedd wedi eu rhoi yn y fath hwyl. Wedi i bawb ymdawelu, ac i Enoc eistedd, ebe'r Capten:
"Mi wranta, Mr. Huws, eich bod yn canfod ein bod dipyn yn llawen heno, ac nid ydym felly heb reswm, ac mi wn, pan glywch y rheswm, y byddwch chwithau yn cydlawenhau â ni. Mae'n digwydd weithiau ein bod yn llawenhau wrth glywed am newydd da i eraill, ond heno yr ydym yn llawenhau, nid am fod gennym newydd da i eraill, er, mewn ffordd o siarad, ei fod yn newydd da i eraill hefyd, ond heno yr ydym yn llawenhau am fod gennym newydd da i ni ein hunain, ac nid i neb yn fwy nag i chwi eich hunan, Mr. Huws, ac nid oes yn ôl—ac i mi siarad yn bersonol, a chwi faddeuwch oll i mi am grybwyll y peth—nid oes dim yn ôl, meddaf, ond un peth i wneud fy llawenydd yn gyflawn heno, a'r peth hwnnw ydyw—(ac yn y fan hon rhwbiodd y Capten ei drwyn â'i gadach poced), a'r peth hwnnw ydyw, wel, nid oes gennych chwi, Mr. Huws, na chwithau, Mr. Simon, brofiad ohono, ond, hwyrach, rywdro, y byddwch mewn sefyllfa y gellwch ei ddeall—y peth hwnnw ydyw, meddaf, nad ydyw Mrs. Trefor yn alluog o ran ei hiechyd i fod gyda ni heno i gydlawenhau, ac y mae Mr. Denman yn gallu deall yr hyn yr wyf yn ei ——"
"O! tada, yr ydech chi'n hir yn deud y newydd wrth Mr. Huws," ebe Miss Trefor.
"Susi," ebe'r Capten, "'dydw i ddim wedi byw i'r oed yma, tybed, heb wybod sut i siarad a sut i ymddwyn yng nghwmni boneddigion. Ond dyna'r oeddwn yn mynd i'w ddweud, yr unig beth sy'n amharu tipyn ar fy