llawenydd i yn bersonol ydyw yr hyn a grybwyllais, sef nad ydyw Mrs. Trefor gyda ni heno, a hynny oherwydd afiechyd—afiechyd, mi obeithiaf, nad ydyw'n beryglus. Ond chwi ddeallwch fy nheimlad—mae dyn, rywfodd, wedi cyd-fyw am gynifer o flynyddoedd, yn rhy barod, hwyrach, i ofni'r gwaethaf. Ond rhag i mi eich cadw yn rhy hir, Mr. Huws, mewn disgwyliad, er y gwn eich bod chwi, yn anad neb, yn cymryd diddordeb yn iechyd Mrs. Trefor rhag eich cadw yn rhy hir, meddaf, a rhag i mi gael fy ngalw i gyfrif eto gan fy merch fy hun, er y byddaf yn hoffi mynd o gwmpas pethau yn fy ffordd fy hun, mi dorraf fy stori yn fer—mae gennym newydd da, Mr. Huws, mae Sem Llwyd wedi dod â newydd i ni gwerth ei glywed—maent wedi taro ar y faen yng Nghoed Madog!"
"Beth?" ebe Enoc mewn syndod mawr, "wedi dod i blwm yn barod?"
"Dyna'r ffaith, syr, onid e, Sem?" ebe'r Capten.
Rhoddodd Sem nod doeth, a arwyddai fod ganddo lawer i'w ddweud ond ei fod yn ymatal rhag na allent ei ddal.
"Hwre! brafo ni, Cwmni Coed Madog," ebe Enoc mewn llawenydd mawr, yn yr hwn y cyfranogodd pawb oddieithr Sem.
"Esgusodwch ein ffolineb, Mr. Simon," ebe'r Capten gan annerch y gweinidog, "ac nid ffolineb chwaith, oblegid nid oes dim yn fwy naturiol, syr, nag i rai fel fy hunan a Mr. Huws a Mr. Denman, y rhai, nid gydag amcanion hunanol a bydol, ond gyda golwg ar wneud lles i'r gymdogaeth, a chyda golwg ar gadw achos crefydd i fyny—sydd wedi gwario llawer o arian—mwy nag a goeliech chwi—naturiol, meddaf, iddynt lawenhau pan ddônt o hyd i'r trysor cuddiedig—mor naturiol ag oedd i Columbus lawenhau pan welodd y ddeilen ar y dŵr."
"Perffaith naturiol, ac yr wyf yn cydlawenhau â chwi, Capten Trefor," ebe Mr. Simon.