mynegi calon a theimlad Mr. Huws a Mr. Denman—dynion sydd yn gwybod rhywbeth am y charm o fentro ac am y charm uwch o ddarganfod. Onid felly y mae pethau'n sefyll, Mr. Huws?"
"Ie," ebe Enoc, "ond gadewch glywed am y darganfyddiad, faint ydech chi wedi ei ddarganfod, Sem Llwyd?"
"Esgusodwch fi, Mr. Huws," ebe'r Capten, "mi af i lawr i'r Gwaith fy hun yn y bore, a chewch report cyflawn. Mae'n ddiamau gennyf fod Sem wedi rhedeg yma â'i wynt yn ei ddwrn y foment gyntaf y gwelodd lygad y trysor gloyw, ac nid ydyw mewn position, mi wn, i roi idea briodol i chwi, Mr. Huws, am natur y darganfyddiad, ac fel y dywedais, mi af i lawr i'r Gwaith fy hun yn y bore, D.V. Ond hyn sydd sicr, pe na bai'r darganfyddiad ond cymaint â nodwyddaid o edau sidan, ac, yn wir, nid wyf yn disgwyl, yn ôl natur pethau, iddo fod yn fawr, mae'r ffaith fod Sem Llwyd a'i bartner wedi darganfod ei fod yno—bydded cyn lleied ag y bo—yn dangos yn eglur fod toreth ohono allan o'r golwg. Onid dyna ydyw'n profiad ni fel practical miners, Sem?"
"'Rydech chi yn llygad ych lle, Capten," ebe Sem.
Yn y fan hon daeth Miss Trefor i mewn gan hysbysu bod y swper yn disgwyl amdanynt, ac aeth y cwmni i'r parlwr, ond arhosodd y Capten i gael gair neu ddau yn gyfrinachol â Sem Llwyd. Nid oedd yr ymgom ond ber, sef fel y canlyn:
Dydi o fawr o beth, mi feddyliwn, Sem?"
"Nag ydi, syr," ebe Sem, "prin werth sôn amdano, fel y cewch chi weld yfory, ond 'roeddwn i'n meddwl na fase fo ddrwg yn y byd i mi ddwad yma i ddeud."
"Chwi wnaethoch yn iawn, Sem," ebe'r Capten. "Y gwir ydyw, ddaeth newydd erioed mewn gwell amser, achos, rhyngoch chwi a fi, mae Denman bron â rhoi i fyny'r ysbryd. 'Does gan Denman, druan, mae arnaf ofn, fawr o arian i'w sbario, ac y mae'n gorfod