Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/225

Gwirwyd y dudalen hon

obeithiaf y gwnewch gyfiawnder â'r hyn sydd yma. Y rhai salaf yn y byd, Mr. Simon, ydym ni, teulu Tŷ'n yr Ardd, am gymell, ac os na wnewch y gorau o'r hyn sydd o'ch blaen, arnoch chwi y bydd y bai, Mr. Simon."

"Ni byddaf yn euog o'r bai hwnnw, Capten Trefor," ebe'r gweinidog.

("Mi gredaf," ebe Enoc ynddo'i hun.)

"Purion," ebe'r Capten. "Mr. Simon, beth gymerwch chwi i'w yfed? Yr wyf fi fy hun wedi arfer cymryd cwrw, hwyrach ei fod yn fai ynof, ac mi fyddaf yn meddwl weithiau, wrth ystyried y mawr ddrwg sydd o'i gamarfer, y dylwn, er mwyn esiampl, ei roi heibio, er y gwn y byddai hynny, yn yr oed yma, yn niweidiol iawn i mi. A ydych yn ddirwestwr, Mr. Simon?"

"Ydwyf," ebe Mr. Simon, "yn yr ystyr Ysgrythurol i'r gair. Mi fyddaf yn cymryd cwrw yn gymedrol, a phan fyddaf yn credu ei fod yn fwy llesol i mi na the neu goffi, ond ni fynnwn friwio teimladau neb wrth ei gymryd."

"Dyna just f'athrawiaeth innau," ebe'r Capten, ac ychwanegodd: "Susi, dwedwch wrth Kit am ddod â chwrw i Mr. Simon a minnau, a choffi i Mr. Huws a Mr. Denman. Maent hwy eu dau, Mr. Simon, yn ddirwestwyr, ond heb fod yn rhagfarnllyd. Felly, chwi welwch, a chyfrif fy merch, y bydd tri yn erbyn dau ohonom."

Yr oedd hyn braidd yn annisgwyliadwy i'r gweinidog, ac ebe fe:

"Rhydd i bob meddwl ei farn."

"Ac i bob barn ei llafar," ebe'r Capten.

"Os rhydd i bob barn ei llafar," ebe Enoc, "fy marn i ydyw y dylem ni, sydd yn gymharol ieuanc, yn anad neb, ymwrthod yn llwyr â'r diodydd meddwol. Yr ydym ar dir diogelach, ac yn meddu cydwybod dawelach i annog y rhai sydd yn yfed i ormodedd i ymwrthod â'r arferiad."