Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/228

Gwirwyd y dudalen hon

fod dau ŵr ieuanc, cyfartal o ran pryd a gwedd, ffortun, a phob rhagoriaeth arall, yn ceisio am eich ffafr, ond bod un yn ddirwestwr, a'r llall yn ymarfer â'r diodydd meddwol, ar ba un o'r ddau y gwrandawech?"

"'Wrandawn i ar y naill na'r llall," ebe Susi.

"Ie," ebe Mr. Denman, "ond golygwch y byddai raid i chwi briodi un o'r ddau."

"Wel," ebe Susi, "pe byddai raid i mi briodi un ohonynt, neu gael 'y nghrogi, mi briodwn, wrth gwrs, y dirwestwr, ac nid yn ôl greddf' ond yn ôl fy rheswm."

"Clywch! clywch!" ebe Enoc, "mae'r cwestiwn wedi'i setlo."

"Gyda phob dyledus barch," ebe Mr. Simon, "'dydi'r cwestiwn ddim wedi'i setlo, oblegid yn ôl tystiolaeth Capten Trefor y mae Miss Trefor yn ddirwestreg, ac felly y mae ganddi ragfarn. A phe apelid at ryw ferch arall, dichon yr atebai honno yn wahanol."

"Ond y mae Mr. Denman yn golygu i chwi apelio at y dosbarth gore o ferched," ebe Enoc.

"Mae peth arall i'w ddweud," ebe'r Capten. "Pan ddywed fy merch na wrandawai hi ar yr un o'r ddau, y mae'n amlwg nad ydyw'n dweud yr hyn y mae hi yn ei feddwl; ac os nad ydyw yn dweud yr hyn y mae yn ei feddwl yn y rhan flaenaf o'i hatebiad, mae lle i gredu nad ydyw'n dweud yr hyn y mae yn ei feddwl yn y rhan arall."

"Campus!" ebe Mr. Simon, "rhesymeg berffaith. Nid anfynych y clywir merched ieuainc prydweddol yn dweud yn bendant na phriodant byth, ac mai mwy dewisol ganddynt fod yn hen ferched, a phan welir hwynt ryw ddiwrnod yn cael eu harwain at yr allor, nid oes neb yn ddigon dideimlad i'w beio am dorri eu gair. Gyda thipyn o strategy, gellir cymryd y ddinas fwyaf caerog."

"Mae'n debyg mai adrodd eich hyder a'ch profiad yr ydech chwi 'rwan, Mr. Simon," ebe Susi, gyda thipyn