Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/229

Gwirwyd y dudalen hon

o gnoad yn ei geiriau," ond yr wyf yn meddwl yr addefwch fod ambell ddinas eto heb ei chymryd, ac na chymerir byth mohoni."

"Fy argument i ydyw hyn," ebe Mr. Simon, "os cymerwyd Jericho, paham na ellir cymryd pob dinas?"

"Dydi'r ffaith," ebe Susi, "fod Jericho wedi ei chymryd drwy chwythu cyrn hyrddod ddim yn profi y gellir cymryd hyd yn oed bentref eto drwy chwythu corn dafad Gymreig, er i'r chwythwr fod yn offeiriad."

"Susi," ebe'r Capten, gan droi llygaid arni oedd braidd yn geryddol, "eich perygl, fy ngeneth, ydyw bod dipyn yn rhy ffraeth, yn enwedig pan na bydd hir gydnabyddiaeth—fel gyda Mr. Huws a Mr. Denman—yn rhoi gwarant i chwi arfer eich ffraethineb. Pan ddeuwch i adnabod fy merch yn well, Mr. Simon, dowch i ddeall nad ydyw yn bad sort; ond, fel hen lanc, bydd raid i chwi ddioddef ergyd yrwan ac yn y man. Dyna ei phechod parod i'w hamgylchu—ymosod ar wŷr dibriod."

"Dyna'r ail apology dros eich merch heno, dada," ebe Susi; "y gyntaf oedd na wyddwn sut i gwcio; a'r ail na wn sut i'm byhafio fy hun. Rhaid eich bod wedi esgeuluso fy education, dada. Ddywedais i rywbeth vulgar, Mr. Simon?"

"Dim o gwbl, Miss Trefor. Ni rown i 'run ffig am ferch ieuanc os na fedrai ateb drosti ei hun," ebe Mr. Simon.

"Debyg iawn," ebe Susi, "rown innau 'run ffig am ŵr, er iddo fedru ateb drosto'i hun."

"Mae arnaf ofn, fy ngeneth," ebe'r Capten, " y bydd raid i mi wneud trydydd apology drosoch, os ewch ymlaen yn y ffordd yna. Nid ydyw siarad yn amharchus am ddynion yn un arwydd o education, ac yr ydych yn anghono mai dyn ydyw eich tad."

"Present company excepted, chwi wyddoch, tada," ebe Susi, a 'dydw i, fel y gwyddoch, ddim wedi cyfarfod ond ychydig o ddynion,—dim ond Cwmni Pwll y Gwynt,