o hyd i lanc gonest, medrus ac ymdrechgar. Rhoddodd Enoc wedd newydd ar y siop, a bywyd newydd yn y fasnach. Digwyddodd hyn pan oedd Hugh Bryan yn dechrau mynd i lawr yr allt. Er nad ydyw Rhys Lewis yn sôn am hynny yn ei Hunangofiant, yr wyf yn lled siŵr fod â wnelai dyfodiad Enoc i Siop y Groes gryn lawer â chyflymu methiant "yr hen Hugh," chwedl ei fab. Gan ddisgwyl "y plwm mawr " oedd o hyd mewn addewid, yr oedd Hugh Bryan, ers blynyddoedd, yn cario ei arian i waith mwyn Pwll y Gwynt, ac ar ôl cario ei arian ei hun yno, dechreuodd gario arian pobl eraill. Dan yr amgylchiadau, tra yr oedd Hugh Bryan yn mynd ar i waered, yr oedd Enoc Huws yn gwthio ymlaen, ac eisoes wedi cael y gair ei fod yn un garw am fusnes. Cenfigennid wrth y weddw ei bod mor ffortunus yn ei chynorthwywr. Gwyddai Wil Bryan hyn ers amser, ond yr oedd yn rhy gyfrwys i adael i neb wybod ei fod yn cenfigennu at lwyddiant Enoc, a'r unig sylw angharedig a glywais o'i enau, hyd yr wyf yn cofio, oedd hwn:
"'Does dim isio genius, wyddost, i wneud grocer llwyddiannus—second a third rate men ydyn nhw i gyd. Yn wir, mae pob genius o siopwr a weles i 'rioed yn torri i fyny yn y diwedd; a 'rydw i'n mawr gredu mai rhw successful provision dealer oedd y confounded Demas hwnnw y mae Paul ne Ioan, 'dwy i ddim yn cofio prun, yn sôn amdano."
Yr oedd popeth fel pe buasai'n gweithio i ddwylaw Enoc, ac yr oedd y weddw ac yntau cyn bo hir yn chwip ac yn dop. Yr oedd ar y weddw y fath arswyd rhag i Enoc anesmwytho drwy i rywun gynnig iddo gyflog mawr, nes iddi, heb ei gofyn, roddi iddo gyfran yn y fasnach, peth a barodd i Enoc ddyblu ei ymdrechion. Drwy hyn heliodd Enoc, nid yn unig dipyn o arian iddo ef ei hun, ond ychwanegodd gryn lawer at ffortun y weddw. Aeth misoedd lawer heibio, a bu'r weddw farw. Ond cyn marw gwnaeth ddarpariaeth yn ei hewyllys fod i Enoc Huws gael y cynnig cyntaf ar y siop a'r fasnach, a chael