Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/233

Gwirwyd y dudalen hon

ngwraig a Mr. Huws—beth, Mr. Denman, ydech chi yn hwylio mynd adre? Wel, yr wyf yn deall eich brys eisiau dweud y newydd da i Mrs. Denman, onid e? 'Wna i mo'ch rhwystro—nos dawch, nos dawch. Dyn clên iawn ydyw Mr. Denman, Mr. Simon, ac yr ydych yn siŵr o ffeindio fy mod yn dweud y gwir amdano. Ond deudwch i mi, ydech chi ddim yn cael y cwrw yma yn galed o'i hwyl? Mae o'n dechre mynd, mae arnaf ofn. Cael gormod o lonydd y mae, trwy nad oes neb yn ei yfed. Peidiwch ag yfed chwaneg ohono—change is no roguery—mae gen i dipyn o Scotch whiskey, sydd yma ers gwn i pryd, gan mai anaml y byddaf yn edrych arno, ac os ydi o cystal ag oedd o fis yn ôl yr ydych yn sicr o'i licio. Esgusodwch fi tra byddaf yn nôl tipyn o ddŵr glân, achos bydawn i yn canu'r gloch ar y forwyn, fe ddealle'r titots yn y llofft ein bod yn galw am chwaneg o gwrw neu yn newid ein diod.

"Yrwan, syr, yr wyf yn meddwl y liciwch hwn,—say when. 'Run fath â finnau yn union,—mae gormod o ddŵr yn andwyo whiskey. Llwyddiant i'r achos dirwestol. 'Neith o'r tro, Mr. Simon?"

"Prime, prime," ebe Mr. Simon.

"Mi wyddwn," ebe'r Capten, "y buasech yn ei licio, a phaham y mae'n rhaid i ddyn ei amddifadu ei hun o bethau da'r bywyd hwn? 'Does na rheswm na 'Sgrythur yn gofyn iddo wneud hynny, cyd â'n bod ni yn cymryd popeth gyda diolchgarwch. Ond y mae'n rhaid i mi ddweud hyn, na fedraf fwynhau glasaid o wisgi ym mhresenoldeb fy merch, am y rheswm ei bod yn ddiweddar yn rhagfarnllyd ofnadwy yn ei erbyn—ym mha le y cafodd ei notions dirwestol, nis gwn.'

"Hwyrach," ebe Mr. Simon, "mai gan Mr. Huws, oblegid er ei fod yn ddyn da yn ddiamheuol, mae o yn ymddangos i mi dipyn yn ancient yn ei ffordd. Ac y mae'n resyn o beth fod ymysg ein dynion gore wmbreth o cant a chuldra meddwl, ac y mae hyn i'w briodoli o