bosibl i ddiffyg addysg ac ymgydnabyddiaeth â'r byd gwareiddiedig."
"Mi welaf," ebe'r Capten," eich bod yr hyn yr oeddwn wedi tybio eich bod, sef yn ddyn wedi sylwi ar fywyd a chymeriadau; ac, fel yr oeddych yn dweud, mae'n resyn pan eith Cymro dipyn yn grefyddol, ei fod yr un pryd yn mynd yn gul ei syniadau, ac yr wyf yn siŵr mai i hyn y gellir priodoli gelyniaeth anghymodlawn fy merch at bob math o wirod, oblegid y mae hi yn grefyddol, ac yr wyf yn ddiolchgar am hynny. Yn awr, syr, goddefwch i mi ddweud bod yn dda gennyf gyfarfod â dyn eang ei syniadau, ac y bydd yn dda gennyf gael eich cwmni yn aml, pan na fydd hynny yn tolli ar eich myfyrgell a'ch llafur ar gyfer y weinidogaeth. Mewn lle fel Bethel, mae'n amheuthun cael cwmni gŵr o gyffelyb syniadau â mi fy hun. Hwyrach y synnwch pan ddwedaf na fu ond ychydig gymdeithas rhyngof a'ch rhagflaenydd, Mr. Rhys Lewis. Fel y clywsoch, yn ddiamau, yr oedd Mr. Lewis yn ŵr rhagorol, yn bregethwr da, sylweddol, ac yn hynod o dduwiol. Ond yr oedd yn gul ei syniadau ar rai pethau,—nid oedd wedi troi llawer yn y byd, ac er fy mod yn ei edmygu fel pregethwr, ac yn ei barchu fel bugail a gwas yr Arglwydd, nid oeddwn, rywfodd, yn gallu bod yn rhydd a chartrefol yn ei gwmni. A synnwn i ddim nad oedd yntau yn teimlo yn gyffelyb ataf innau,—yn wir, y mae gennyf le i gredu y byddai yn edrych arnaf braidd yn amheus, ac yn ofni, hwyrach, nad oedd gwreiddyn y mater gennyf; a'r cwbl yn tarddu oddi ar ein dull gwahanol o feddwl ac o edrych ar bethau. Yr oedd ef, syr, wedi troi mewn cylch bychan, a ninnau mewn cylch mawr."
"Hynny, yn ddiau," ebe Mr. Simon, "oedd yn rhoi cyfrif am y peth, ac, fel y dywedais o'r blaen, mae'n resyn o beth fod rhai o'n dynion gore yn gul. Ond, beth bynnag arall ydwyf, nid ydwyf yn gul, diolch i'm hadnabyddiaeth o'r byd; ac er fy mod yn mwynhau eich cwmpeini yn fawr, ac yn gobeithio y caf lawer