Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/236

Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD XXXIV

Ystafell y Claf

MOR wahanol, yn fynych, fydd arweddion bywyd, yr un amser, a hyd yn oed yn yr un tŷ. Tra bo rhywrai, hwyrach, mewn un ystafell yn mwynhau digrifwch a hapusrwydd, yn yr ystafell nesaf, heb ddim ond lled bricsen rhyngddynt, bydd rhywun arall â'r galon yn brudd, a meddyliau am y dyfodol yn gwasgu ar ei enaid. Ac felly, yr oedd yn Nhŷ'n yr Ardd y noswaith y buwyd yn sôn amdani. Aeth Enoc a Miss Trefor i fyny'r grisiau. Cyn agor drws ystafell ei mam, dywedodd Miss Trefor yn ddistaw:

"Mae fy mam, Mr. Huws, yn salach o lawer nag yr oeddwn yn meddwl ei bod. Ni feddyliais fod dim mwy arni na thipyn o bilious attack. Mae wedi bod yn cysgu ers oriau, ac yr oeddwn yn credu y buasai wedi dwad ati ei hun pan ddeffrôi. Ond y mae hi yn wael iawn, a 'dydw i ddim, rywfodd, yn licio'i golwg hi."

"Oni byddai'n well gofyn i Mr. Simon ddwad i'w golwg? Hwyrach y gallai ei chysuro, a hwyrach y carai eich mam iddo weddïo gyda hi," ebe Enoc.

"Na," ebe Susi, "'does gen i ddim ffydd mewn gweddi dyn ag arogl cwrw arni," ac agorodd ddrws yr ystafell. Ai gwael iawn ydech chi, Mrs. Trefor?" gofynnai Enoc.

"Ie, Mr. Huws, ond y selni olaf ydi o," ebe Mrs. Trefor. "Dyn annwyl, peidiwch â siarad fel yna; mi'ch gwelais chi yn llawer salach ac yn mendio, Mrs. Trefor," ebe Enoc.

"Naddo, Mr. Huws, naddo. 'Rydw i'n teimlo'n rhyfedd—fûm i 'rioed yn teimlo 'run fath, a fedra i mo'i ddeud o. 'Roedd Susi yn meddwl 'y mod i'n cysgu ers oriau, ond 'doeddwn i ddim, achos 'roeddwn i'n 'i chlywed hi'n dwad i mewn bob tro, ac yn ych clywed chithe i lawr yn siarad, yn enwedig Richard. A 'doeddwn i ddim yn effro chwaith. 'Roeddwn i'n meddwl 'y mod