Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/237

Gwirwyd y dudalen hon

i ar ryw afon braf, lydan,—nid mewn cwch. 'Doedd gen i ddim byd i 'nal i, ac eto 'roedd rhwfun neu rwbeth yn 'y nal i rhag i mi suddo. 'Roedd yr afon yn mynd yn gyflym, a neb ond y fi arni. 'Roeddwn i'n gweld bod y tir o boptu'r afon yn symud yr un ffordd ond nid mor gyflym â'r afon. 'Roeddwn i'n pasio llawer o bobol ar lannau'r afon—rhai yr oeddwn i'n eu 'nabod, ond y rhan fwyaf yn ddiarth i mi. A dyna'r oeddwn i'n synnu ato 'doeddwn i ddim yn colli golwg ar y rhai 'roeddwn i'n eu 'nabod, ond eu bod nhw'n mynd ymhellach oddi wrtha i, ond 'roeddwn i'n colli'r rhai diarth o hyd, a rhai newydd yn dwad yn eu lle nhw. A 'rydw i'n teimlo 'rwan, er 'y mod yn reit effro, fel bydawn ar yr afon,—rhw deimlad fel bydawn i'n mynd o hyd, a 'rydw i'n meddwl, Mr. Huws, mai angau ydi o."

"Dim o'r fath beth, Mrs. Trefor," ebe Enoc, yn gysurol, "'dydi o ddim ond tipyn o wendid. 'Dydi angau ddim yn beth mor hyfryd, mae arnaf ofn, a'r teimlad yr ydech chi yn ei ddisgrifio, Mrs. Trefor."

"Sut y gwyddoch chi, Mr. Huws? achos fedr neb adael ei brofiad ar ôl i ddweud beth ydi angau fel ag i'r byw ei 'nabod. Mae'n rhaid bod y teimlad yn newydd i bawb erbyn y daw ato, a hwyrach ei fod yn hollol wahanol i'r peth y daru ni feddwl ei fod," ebe Mrs. Trefor.

"Yr ydech chi quite yn philosopher, 'mam. 'Chlywes i 'rioed monoch chi'n siarad mor dwt. 'Dydech chi ddim i farw'n siŵr i chi," ebe Miss Trefor.

"Mi glywes dy nain yn deud," ebe Mrs. Trefor, "y bydde rhai pobol fydde dipyn yn ddwl yn ystod eu hoes yn sharpio'n anwêdd cyn marw, a hwyrach 'y mod inne felly. Mae ene rwbeth yn deud wrtha i na choda i ddim o'r gwely 'ma eto. 'Does ene ddim rhw air yn deud, Mr. Huws, am rwfun yn cael ei gymryd ymaith o flaen drygfyd?"

"Oes," ebe Enoc, "fe ddwedir fod y cyfiawn yn cael ei gymryd ymaith o flaen drygfyd. Ond nid oes drygfyd yn debyg o ddigwydd i chwi, Mrs. Trefor. Yr ydech