amser rhesymol i dalu i'r ysgutorion. Neidiodd Enoc i'r cynigiad; ac yr oedd pob awel fel pe'n chwythu o'i du.' Yn fuan iawn yr oedd ei lwyddiant yn destun ymddiddan llaweroedd.
Nid oedd Enoc Huws yn chwannog am swyddau cyhoeddus, ac nid oedd natur wedi ei ddonio â'r cymwysterau at hynny. Ond y mae rhyw reddf yn y natur ddynol yn ei gorfodi i gredu, os bydd dyn yn llwyddiannus yn y byd, y dylai dorri ffigur yn y capel, pa gymwyster bynnag fydd ynddo. Ac felly y bu gydag Enoc Huws. Nid oes dim, mewn byd nac eglwys, yn peri llwyddo fel llwyddiant. Cynyddodd masnach Enoc yn ddirfawr. Y mae pobl, fel defaid, yn hoff o dynnu i'r unfan. Ar ddiwrnod marchnad byddai siop Enoc Huws yn orlawn, tra'r oedd ambell fasnachwr, oedd cystal dyn ag yntau, a heb fod yn byw ymhell oddi wrtho, yn ddiolchgar am gwsmer yrwan ac yn y man. Taener y gair fod hwn-a-hwn
yn ei gwneud hi'n dda," a thyrra pobl i'w gynorthwyo i wneud yn well; sibryder bod un arall mewn trafferth yn cael y ddeupen ynghyd, a gadewir ef gan y lliaws, ac weithiau gan ei gyfeillion, er mwyn gyrru'r ddeupen ymhellach fyth oddi wrth ei gilydd. Dyna'r gwir, yn dy wyneb, amdanat ti, yr hen natur ddynol!
Ond yr oedd Enoc Huws yn haeddu llwyddo-yr oedd yn ddyn gonest, peth mawr i'w ddweud amdano, ac ni byddai byth yn taenu celwyddau mewn hysbyslenni ar y parwydydd, ac yn y newyddiaduron. Ond yr oedd yn byw yn ei ymyl ddynion cyn onested ag yntau, yn yr un fasnach ag yntau, yn methu talu eu ffordd. Nid oedd y dŵr wedi dechrau rhedeg at eu melinau hwy—yr oedd agos i gyd yn mynd i droi olwyn fawr Siop y Groes, a gwnaent hwythau, druain, eu gorau i ddal y trochion oddi wrth yr olwyn fawr pan drôi gyflymaf. Fel y cynyddai ei fasnach, cynyddai dylanwad Enoc yn y capel. Cyfrannai yn haelionus. Er nad oedd ynddo lawer o elfennau dyn cyhoeddus, gwnaed ef yn arolygwr yr Ysgol