Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/246

Gwirwyd y dudalen hon

"Ie," ebe hi, "yr un o'r tri sydd yn 'morol am yr arian—y chi, Mr. Huws, ydi'r banc."

"Nid wyf yn dallt ych meddwl, Miss Trefor," ebe Enoc.

"Fy meddwl ydi hyn, Mr. Huws," ebe hi, "ac mae'n rhaid i mi gael ei ddweud—fedra i ddim bod yn dawel 'y nghydwybod heb ei ddweud—mai chi sydd yn ffeindio'r arian ac mai 'nhad sydd yn 'u gwario nhw, achos 'does gan 'y nhad yr un bunt o'i eiddo'i hun i'w gwario."

"Rydech chi'n 'smalio, Miss Trefor," ebe Enoc.

"Fûm i 'rioed yn fwy difrifol, Mr. Huws," ebe Susi. Yr oeddwn yn ofni o hyd eich bod yn credu ein bod yn gyfoethog, ond y gwir ydyw ein bod yn dlawd—ac yn dlawd iawn, a dyna, mi wn, sydd yn lladd 'y mam. Yr yden ni am flynydde wedi byw mewn llawnder a moethau, ond er pan stopiodd Pwll y Gwynt yr yden ni'n dlawd, ac erbyn hyn, mae gen i ofn ein bod ni'n byw ar eich arian chi, Mr. Huws. 'Does gen i ddim idea faint y mae Mr. Denman wedi 'i wario er pan gychwynnodd Coed Madog, ond mi wn hyn—na wariodd 'y nhad ddim, achos 'doedd ganddo ddim i'w wario. Fedrwn i ddim bod yn dawel 'y nghydwybod heb gael dweud y cwbwl i chi, Mr. Huws. A chyda golwg ar newydd da Sem Llwyd, 'does gen i ond gobeithio ei fod yn wir er eich mwyn chi. Ond 'dydw i'n rhoi dim pwys ar yr hyn a ddywed Sem. Mae o wedi dweud llawer o bethau tebyg o'r blaen, a'r cwbwl yn troi'n ddim yn y byd."

"Miss Trefor," ebe Enoc, wedi ei hanner syfrdanu, "yr ydech chi'n 'smalio—dydech chi ddim yn meddwl deud wrtha i nad ydi'ch tad yn dda arno?"

"Mae fy nghalon yn rhy brudd i 'smalio, Mr. Huws," ebe Miss Trefor, "nid yn unig nid yw fy nhad yn dda arno, ond y mae mewn dyled, ac os na ddaw gwawr o rywle, wela i, ar hyn o bryd, ddim gobaith iddo allu talu ei ddyled. Ond 'dydi'r ffaith ein bod ni ein hunain yn dlawd, ddim yn ddigon o reswm dros i ni wneud eraill yn dlawd. 'Rwyf agos yn sicr na fydd fy mam fyw yn