hir,—fedr hi ddim dal tlodi. Be sydd o'm blaen i, 'wn i ddim; ond 'rwyf yn benderfynol na byddaf byw ar dwyll a rhagrith, deued a ddelo. Os try Coed Madog allan yn dda, mi ddiolchaf i Dduw am hynny; ond os fel arall, wel, wn i ddim be ddaw ohonon ni. 'Rwyf yn gwybod o'r gore eich bod wedi ymddiried y cwbwl i 'nhad, a dyma finne wedi deud y cwbwl wrthoch chi, ac yr oeddwn wedi bwriadu ei ddeud ers wythnosau, ond fy mod yn methu torri trwodd. Chi wyddoch 'rwan sut mae pethe'n sefyll, ond bydae 'nhad yn gwybod 'y mod i wedi deud hyn wrthoch chi, fydde fychan ganddo fy mwrdro."
"'Rydech chi wedi fy synnu, Miss Trefor, ac eto 'rwyf yn teimlo'n llawen," ebe Enoc, â'i wyneb yn eglur ddangos ei fod yn dweud y gwir o'i galon.
"Yn llawen, Mr. Huws? Ydi clywed ein bod yn dlawd yn fforddio llawenydd i chi? Syr, 'dydech chi ddim y dyn ddaru mi feddwl ych bod," ebe Miss Trefor yn gynhyrfus.
"Hwyrach hynny," ebe Enoc, "ond mi obeithiaf y cewch fi yn well dyn nag y daru chi 'rioed synio amdanaf. Fe allai ei fod yn ymddangos yn greulon ynof ddweud, ond, mewn ystyr, mae'n dda iawn gennyf ddeall eich bod yn dlawd, os ydech chi'n dlawd hefyd."
Nid atebodd Miss Trefor air, ond gydag ysgorn dirmygus ei hwyneb, cyfeiriodd tua'r drws. Cyrhaeddodd Enoc y drws o'i blaen, a chan ei gau a gosod ei gefn arno, ebe fe:
"Arhoswch i mi f'esbonio fy hun."
"Nid oes angen i chi neud hynny," ebe Miss Trefor, 'rwyf yn gweld trwoch fel trwy ffenest. 'Roeddech chi, mi wn, yn credu bob amser ein bod yn weddol dda arnom, 'rydech chi'n cofio'n dda fel y bydde 'nhad yn ych patroneisio, ac fel y byddwn inne, yn fy ffolineb, yn ych dibrisio; ond,' meddwch 'rwan, mae'r byrdde wedi troi—mae 'nhro inne wedi dwad—mi wna iddyn nhw newid eu tôn. Wel, mae hynny yn eitha naturiol—