'dydi o ddim ond y peth yr yden ni'n 'i haeddu am ein hymbygoliaeth, ond y mae, Mr. Huws, yn dro sâl mewn dyn fel chi. 'Roeddwn i wedi disgwyl am eich cydymdeimlad—a 'doeddwn i ddim chwaith—achos f'amcan—f'unig amcan—yn dweud wrthoch am sefyllfa fy nhad oedd eich lles chi eich hun,—eich rhoi ar eich gwyliadwriaeth rhag i chi ddwad i'r un sefyllfa eich hunan. Bydaswn i yn hunanol, mi fuaswn yn ych gadel yn y twllwch. Ond cymerwch eich fling. 'Rwyf yn meddwl fy mod yn ofni Duw, ond 'dydw i'n hidio 'run botwm am opiniwn nac ysgorn un dyn ar wyneb y ddaear. Gadewch i mi fynd, Mr. Huws, os gwelwch yn dda."
"Nid cyn y byddwch mewn gwell tymer," ebe Enoc. "Gyda'ch holl insight, ac er mor graff ydech chi, 'rydech chi wedi cam—"
"Susi? Lle'r ydech chi, 'ngeneth i?" gwaeddai Capten Trefor wrth ddyfod i lawr y grisiau, ac ychwanegai, "Mae ar ych mam ych eisie, Susi."
Er bod rheg yn beth hollol ddieithr i Enoc, aeth rhywbeth tebyg i reg trwy ei fynwes pan glywodd lais y Capten, a phan ysgubodd Susi heibio iddo heb gymaint â dweud "nos dawch" wrtho.
"Holo, Mr. Huws," ebe'r Capten, "'roeddwn yn meddwl eich bod wedi mynd adref ers meityn, ond pobl ifainc ydyw pobl ifainc o hyd. 'Rydw innau'n cofio'r amser, syr, ha! ha! ha! Arhoswch, Mr. Huws, hidiwn i ddim byd a dwad i'ch danfon adref,—mae arnaf eisiau tipyn o awyr iach."
Teimlai Enoc yn flin iawn ei ysbryd, fel y cymerai'r Capten afael yn ei fraich gan ei arwain tuag adref. Gallasai sylwedydd craff ganfod fod gwir angen ar y Capten am gymorth braich Enoc, canys nid oedd yn cerdded lawn mor hysaf ag arfer, ond ef ei hun fuasai yr olaf i gydnabod hynny, ac Enoc fuasai'r olaf o bawb i ganfod hynny, yn enwedig pan oedd ei feddwl bron yn hollol gyda Miss Trefor. Er hynny, yr oedd y Capten yng nghanol ei gof, a'i feddwl cyn gliried â phe na phrofasai ddiferyn o wisgi.