Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/250

Gwirwyd y dudalen hon

byd—mi fyddaf yn meddwl, meddaf, mai yn ffilosoffydd y bwriadwyd fi. Oblegid, cyn gynted ag y caf ddeng munud o hamdden oddi wrth orchwylion bydol, bydd fy myfyrdodau yn rhedeg ar ôl y pethau mawr—pethau'r enaid. Ond hwyrach fy mod yn camgymryd."

"Yn ddiame," ebe Enoc, oblegid nid oedd yn gwrando ond ychydig, ac yn deall llai o'r hyn a ddwedai'r Capten. Ac nid oedd y Capten heb ganfod bod meddwl Enoc yn rhywle arall, ac er mwyn ei ddwyn gartref, ebe fe:

"Beth ydyw eich syniad, erbyn hyn, Mr. Huws, am ein gweinidog—Mr. Simon?"

"Fy syniad yw ei fod yn gerddor gweddol," ebe Enoc. "Ie, ond beth yr ydech yn ei feddwl ohono fel gweinidog?" gofynnai'r Capten.

"Wn i ddim a ydw i'n abl i roi barn," ebe Enoc. "Ac yn wir, 'dydi o ddim yn waith hoff gen i farnu dynion, yn enwedig pregethwyr. 'Na ddywed yn ddrwg yn erbyn pennaeth dy bobl.' Mae rhyw air tebyg yn rhywle. Ond gan eich bod yn gofyn, mi ddwedaf wrthoch chi—nid fy marn, ond fy nheimlad, wrth gwrs, ac ni fynnwn i chi wneud un defnydd ohono, oblegid ni fynnwn er dim greu rhagfarn yn ei erbyn. Ond fy nheimlad, o'r dechre, ydyw nad oes gan Mr. Simon ddim dylanwad ysbrydol arnaf—dim i ddyrchafu fy syniadau am bethau crefyddol—dim i gynhesu fy nghalon at Grist. 'Dydw i ddim yn teimlo bod ei bregethau, na'i anerchiadau yn y seiat, na'i ymddiddanion mewn cwmni, yn gwrthweithio dim ar y dylanwad sydd gan y byd a masnach i fferru teimladau dyn. A buase yn haws gen i fadde hyn iddo pe buasai'n goleuo rhyw gymaint ar fy neall, ond, yn wir, 'dydw i byth yn teimlo damed gwell o'i herwydd. Mae rhyw syniad gennyf y dylai gweinidog yr Efengyl ddiddyfnu tipyn ar ddyn oddi wrth y byd, a gwneud pethau crefydd a byd arall yn fwy dymunol yn ei olwg. Ni theimlais i erioed felly dan weinidogaeth nac yng nghwmni Mr. Simon. Ond yr wyf yn barod iawn i gydnabod y gall mai ynof fi fy hun y mae'r diffyg."