Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/254

Gwirwyd y dudalen hon

"Mae'n wir ddrwg gen i glywed hynny, ond tybed na chaiff o'r cwbl yn ôl ryw ddiwrnod," ebe Enoc.

"Y cwbl yn ôl, syr? Caiff, fel y cawn ninnau, a llawer ychwaneg," ebe'r Capten, ac ychwanegodd, "Ond dyma ni yn awr wedi dwad at eich palatial residence a noble residence ydyw mewn gwirionedd. A chymryd y tŷ a'r siop efo'i gilydd, nid llawer o rai gwell sydd, os oes un, yn y dref, yn ôl fy meddwl i. Ond dyna'r oeddwn yn cychwyn ei ddweud—oni bai fod fy llygaid wedi syrthio ar eich tŷ ardderchog—dyna'r oeddwn yn mynd i'w ddweud,—fy mod am ofyn cymwynas gennych, ac nid peth arferol, fel y gwyddoch, ydyw hynny i mi. Yn wir, yr wyf wedi gofyn cyn lleied o gymwynasau fel yr wyf yn teimlo'n bur anfedrus gyda'r gwaith. Ond dyna'r oeddwn yn mynd i'w ddweud—chwi wyddoch ein bod wedi gwario tipyn ar Goed Madog, er nad oes un geiniog wedi ei gwastraffu. Hwyrach y dylaswn fod wedi eich cymryd, Mr. Huws, i'm cyfrinach deuluol cyn hyn, ond tipyn yn glos yr wyf wedi arfer bod,—yn wir, ni ŵyr fy nheulu ond ychydig am f'amgylchiadau. Yr wyf ar fai, mi wn. Ond y ffaith ydyw, fod yr ychydig arian a gesglais yn ystod blynyddoedd fy llafur—a llafur nid bychan ydyw wedi bod, fel y gwyddoch, wedi eu suddo mewn lle diogel, oblegid yr oeddwn bob amser yn ceisio cofio am fy nheulu. Peidiwch ag agor y drws, Mr. Huws, cyn i mi orffen fy stori,—yr oeddwn bob amser yn ceisio cofio am fy nheulu, meddaf, ac yn ceisio paratoi ar eu cyfer, pe digwyddasai i Ragluniaeth ddoeth fy nghymryd i ymaith yn sydyn, fel na fyddai raid iddynt, wedi i mi fynd, ddibynnu ar na phlwy na pherson. Yr wyf, erbyn hyn, braidd yn ofni i mi fod yn rhy ofalus am y dyfodol, ond, ar yr un pryd, nid wyf yn awr yn teimlo'n barod iawn i aflonyddu ar yr hyn a wnes. Wel, y canlyniad ydyw, fel y gallech gasglu, nad oes gennyf erbyn hyn lawer o arian wrth law, a mi a'i hystyriwn yn gymwynas—yn gymwynas fawr iawn—pe gallech, heb achosi dim anghyfleustra i chwi eich hun, roddi benthyg