can punt i mi—nid i gario'r Gwaith ymlaen, deallwch, ond i mi yn bersonol, oblegid y mae gennyf dipyn wrth gefn i gario'r Gwaith ymlaen, ond yr wyf yn gofyn am hyn fel ffafr, i'r diben fod gennyf, fel y dywedais, heb aflonyddu ar bethau eraill, dipyn o arian yn tŷ, achos y mae arnaf ofn iddynt gredu fy mod yn dlawd, ac ym—ollwng yn eu hysbryd acw. Rhoddaf i chwi fy I.O.U., a chewch hwy yn ôl gydag interest ymhen mis, dau, tri, pedwar, neu flwyddyn—just yn ôl y ffordd y penderfynaf alw pethau i mewn. Ni buaswn yn beiddio gofyn y ffafr hon—yn wir, yr oeddwn wedi penderfynu galw rhyw bethau i mewn—oni bai am y newydd da a gawsom heno gan Sem Llwyd."
"Cewch yn eno dyn, â chroeso; dowch i mewn, syr," ebe Enoc, ac i mewn yr aethant. "Gwarchod pawb! 'does yma ond twllwch yr Aifft," ychwanegai Enoc wedi agor y drws, ac ni ddywedai ef lawer o ormodiaith, oblegid yr oedd Marged wedi diffodd y gas, a gadael i'r tân fynd yn isel yn y grât, ac yn ôl pob golwg, wedi mynd i'r gwely ers meityn.
"Mae'n ddrwg gen i," ebe Enoc wrth danio'r gas, "eich dwyn i le mor anghyfforddus, ond gwelwch sut fyd sydd ar hen lanc."
"Just so," ebe'r Capten, "ond pwy sy gyfrifol? Mae'n ymddangos i mi, Mr. Huws, eich bod yn hoffi'r trueni fel yr oedd Diogenes yn hoffi ei dwb, oblegid mi wn—nid wyf yn tybied, ond mi wn—y gallech yn y fath gartref ac yn y fath sefyllfa, dim ond wrth godi eich bys bach, swyno'r ferch ieuanc orau a phrydferthaf yn y plwyf i gynhesu a dedwyddoli eich aelwyd. Self-imposed misery ydyw'r eiddoch chwi, Mr. Huws."
"Wn i beth am hynny," ebe Enoc, "ond mi wnaf y cheque i chwi 'rwan, Capten Trefor."
"Os nad ydyw yn rhyw wahaniaeth i chwi, Mr. Huws," ebe'r Capten, "byddai yn well gennyf eu cael mewn aur neu notes, ond peidiwch ag achosi dim anghyfleustra"