Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/258

Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD XXXVII

Adeiladu Cestyll

WEDI ei adael ei hunan, tynnodd Enoc ei gadair at y mymryn tân oedd yn y grât—llwythodd a thaniodd ei bibell, ac fe'i gosododd ei hun yn yr agwedd gorfforol fwyaf manteisio i adolygu'r holl sefyllfa. Ond rhaid i mi ei adael yn ei fyfyrdodau am ychydig amser.

Ni ddarfu i'r Capten Trefor ond rhoi prawf arall at brofion dirifedi a gafwyd o'r blaen o'i adnabyddiaeth o'r natur ddynol, pan ddywedodd, wrth weled Mr. Denman yn troi adref mor gynnar ar ôl y swper y noswaith honno yn Nhŷ'n yr Ardd, mai brys oedd arno am gael dweud y "newydd da" i Mrs. Denman. Dyna oedd y ffaith. Hon oedd y noson hapusaf a brofasai Mr. Denman ers llawer o amser. Y creadur! mewn ffydd ddiffuant yng ngalluoedd, rhagwelediad, a gonestrwydd y Capten Trefor, yr oedd ef wedi fforffedu'r cwbl oedd ar ei helw, a hynny megis am y pared â'r wraig, oblegid er ei bod hi yn dyfalu ei fod wedi gwario wmbredd ar weithydd mwyn, ni ddychmygai fod y cwbl wedi mynd "i lawr siafft gwaith mein," chwedl Thomas Bartley. Rhwng Pwll y Gwynt a Choed Madog, byd truenus iawn a gawsai Mr. Denman er ys talm. Yr oedd gan y Capten ddylanwad swyn gyfareddwr arno. Cofiai Mr. Denman amser pryd yr oedd ganddo ychydig dai, ychydig diroedd a thipyn o arian, a phryd y golygai ei fod mewn sefyllfa led glyd. Ond erbyn hyn, yr oedd y cwbl, bron, wedi mynd drwy ddwylo'r Capten a'u claddu ym mherfeddion y ddaear heb obaith atgyfodiad. A mwyaf a wariai mwyaf anodd oedd rhoi heibio i "fentro," oblegid ni chlybuwyd erioed am neb wedi dyfod i " blwm mawr" ond y rheini oedd yn mentro, ac mewn gobaith am "lwc," y toddodd eiddo Mr. Denman fel iâ ar lechen yng ngwres yr haul. Heblaw hynny, yr oedd Mr. Denman wedi dioddef am flynyddoedd rinc feunyddiol ei wraig, oedd yn ei fyddaru ac yn ei boenydio â'i hedliwiadau am