ei ffolineb yn cario ei arian "i'r hen Gapten y felltith ene." Yr oedd hyn wedi dinistrio ei gysur teuluaidd, a rhawg cyn i Bwll y Gwynt sefyll, yr oedd Mr. Denman wedi peidio â chymryd ei wraig i'w gyfrinach, ac yr oedd yn byw mewn arswyd beunyddiol rhag iddi ddyfod i ddeall gymaint yr oedd wedi ei wario, a chyn lleied oedd ganddo o'r hyn a allai ei alw yn eiddo iddo ef ei hun. Pe gwelsai ef ei ffordd yn glir i ddyfod dros yr helynt o ddatguddio ei sefyllfa i Mrs. Denman, buasai yn eithaf bodlon i daflu'r cwbl i fyny ac ail ddechrau byw. Dyfeisiai ddydd a nos pa fodd y gallai fynd dros y garw a dweud y gwaethaf wrth ei wraig, ac yr oedd y peth yn dyfod i bwyso yn drymach arno bob dydd am ei fod yn gweld yn eglur y byddai raid i'r terfyn ddyfod yn y man. Teimlai fod cadw hyn i gyd yn ei fynwes ei hun yn ei nychu ac yn ei fwyta ymaith yn raddol, a mynych y dywedai ei gymdogion fod Mr. Denman yn heneiddio yn dost. Ychydig a wyddent hwy am ei bryderon a'i ofnau.
Ond ffordd hir yw honno na bo tro ynddi, a'r noson yr wyf wedi bod yn sôn amdani—wedi clywed newydd da Sem Llwyd, yr oedd gwên foddhaus ar wyneb Mr. Denman a'i ysbryd wedi bywiogi drwyddo. Prin y buasai neb yn adnabod ei gerddediad pan gyfeiriai'n gyflym tuag adref. Cerddai fel llanc. A pha ryfedd? canys, fel pererin Bunyan, yr oedd y baich oedd agos a'i lethu wedi syrthio i'r llawr. Cofiai Mr. Denman eiriau proffwydoliaethol y Capten y noson y cytunodd ef i ymuno yng Ngwaith Coed Madog: "Mr. Denman "—dyna oedd geiriau'r Capten—" mi welaf amser pryd y byddwch yn dweud y cwbl i Mrs. Denman, ac y bydd hithau yn eich canmol." Synnai Mr. Denman at allu rhagweledol y Capten. "A'r fath lwc," ebe fe wrtho 'i hun—" na ddaru mi ddim torri 'nghalon! Y fath fendith! Mi fase cannoedd wedi torri'u calonne a rhoi'r cwbl i fyny ers talwm. Ond 'roedd gen i ffydd o hyd fod y Capten o'i chwmpas hi. Pwy arall fase'n gwario'r cwbwl oedd