Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/26

Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD IV

Capten Trefor.

YR oedd Capten Richard Trefor wedi bod yn troi yn ein mysg ers amryw flynyddoedd, ond nid oedd, mwy nag Enoc Huws, yn frodor o'r dreflan. Pan ddaeth gyntaf atom, yr oedd agos ar ei ben ei hun, am ei fod yn gadael i'w farf dyfu a heb eillio dim, peth a greodd ragfarn gref yn ei erbyn ar y dechrau ym mynwesau rhai pobl dda a duwiol. Edrychai hyd yn oed y gŵr call hwnnw, Abel Huws, braidd yn gilwgus arno. Yr oedd yn eithaf amlwg, meddai'r rhai oedd yn cofio ei ddyfodiad cyntaf, nad oedd ganddo'r pryd hwnnw "fawr o ddim o'i gwmpas," ac mai dyn ac mai dyn "yn jyglo bywoliaeth" ydoedd. Trôi o gwmpas y gweithfeydd, ac yn fuan iawn, er na wyddai neb pa sut, yr oedd ganddo law yn y peth yma a llaw yn y peth arall. Credid yn gyffredinol mai dyn yn byw ar ei wits oedd Richard Trefor, ac yn sicr, nid oedd yn brin ohonynt. Meddai allu neilltuol i'w introdiwsio'i hun i bawb, ac yn fuan iawn gwelid ef yn ymddiddan â phersonau nad oedd llawer o'r hen drigolion erioed wedi torri Cymraeg â hwynt. Siaradai Gymraeg a Saesneg yn llyfn a llithrig, a chordeddai eiriau yn ddiddiwedd os byddai raid. Yr wyf yn cofio clywed Wil Bryan yn cymryd ei lw bod Trefor, rywdro, wedi llyncu geiriaduron Johnson, Webster, a Charles, fel dyn yn llyncu tair pilsen. Beth bynnag am Johnson a Webster, nid ydyw'n beth anhygoel i Trefor lyncu Geiriadur Charles yn ei grynswth, oblegid yr oedd ef yn hynod gyfarwydd yn athrawiaethau crefydd, ac yr oedd yr Ysgrythur ar flaen ei fysedd. Yn y dyddiau hynny byddai cryn ddadlau ar bynciau crefydd—“ Etholedigaeth" a "phar- had mewn gras" a'r cyffelyb, ac ystyrid Trefor yn un o'r rhai "trymaf" mewn dadl, a medrus ar hollti blewyn. Nid oedd ef y pryd hwnnw yn aelod eglwysig, nac ychwaith yn neilltuol o fanwl ynghylch ei fuchedd,