Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/260

Gwirwyd y dudalen hon

ganddo, os gwn i? Ond mi ga'r cwbwl yn ôl, 'rwan, ar ei ganfed. A diolch y medra i fynd adre a dangos wyneb llawen, a deud y cwbl i gyd i'r wraig! A mi gaf dipyn o gysur teuluaidd 'rwan, tybed, peth na ches i mono ers blynydde. Yr Arglwydd a roddodd,' etc." A chyda geiriau Job ar ei wefusau, yr aeth Mr. Denman i'w dŷ yn llawen.

Wrth natur, nid oedd Mrs. Denman yn flinderog, ond yr oedd mynych hir—ddisgwyl am ei gŵr gartref hyd ddeg, un ar ddeg, ac weithiau hanner y nos, a'r ffaith, oedd ddigon amlwg iddi, erbyn hyn, eu bod yn mynd yn dlotach bob dydd, wedi rhoddi ffurf ddreng i'w hwyneb a thôn gwynfannus i'w llais. Yr oedd y plant newydd fynd i'r gwely, a hithau, Mrs. Denman, wedi ei gosod ei hun mewn cadair wrth y tân i bendwmpian i aros ei gŵr gartref. Hi a synnodd pan welodd Mr. Denman yn dyfod i mewn yn fywiog a hoyw, cyn iddi dynnu mig efo'r cyntun cyntaf, a deallodd ar ei olwg fod rhywbeth mwy na chyffredin wedi digwydd, ac ebe hi, dipyn yn wawdlyd:

"Diar mi! be sy'n bod?"

"Mi ddeuda i chi, Mary bach, cyn gynted ag y byddaf wedi tynnu fy 'sgidie," ebe Mr. Denman. Ac wedi gwneud hynny a thynnu ei gadair at y tân, a gosod ei draed ar y stôl haearn, edrychodd yn foddhaus ar ei wraig, ac ebe fe:

"O'r diwedd! o'r diwedd! Mary."

O'r diwedd be! Denman?" gofynnai Mrs. Denman. "Wedi—dwad—i blwm—wedi—dwad—i blwm, Mary, —wedi taro ar y faen, Mary, o'r diwedd! Ac yr ydw i fel y gog—'rydw i wedi f' ail 'neud. Mi wn 'y mod i wedi achosi llawer o flinder i chi wrth fentro, a mentro am gymin o flynydde, a gwario cymin o arian, a mi fasech yn blino mwy o'r hanner bydasech chi'n gwbod y cwbl. Ond mi wyddwn o hyd—'roedd rhywbeth yn dweud wrtha i y cawn i blwm yn fuan, a dyma fo wedi dwad, diolch i'r nefoedd amdano—achos 'roedd hi agos â mynd