i'r pen arna i—'roeddwn i just a thorri fy nghalon, a bron meddwl y byddwn i farw yn ddyn tlawd. Ond diolch i'r nefoedd, meddaf eto.'
"Deudwch yn fwy plaen wrtha i, Denman, 'dydw i ddim yn ych dallt chi," ebe Mrs. Denman.
"Mi 'na, Mary bach, mor blaen â haul hanner dydd. Mi wn 'y mod i wedi'ch cadw chi yn y twllwch, Mary, ac na wyddoch chi fawr am waith mein. 'Roeddwn i ar fai, a 'rwan mi fedra ofyn i chi faddau i mi, a mi wn y gwnewch chi faddau i mi pan ddeuda i'r cwbl. Yr ydw i wedi gwario ar weithydd mein, Mary, fwy nag y daru chi 'rioed freuddwydio. Wel, waeth i mi 'rwan gyfadde'r gwir—'rydw i wedi gwario hynny oedd gen i—mae'r tai a'r tir a'r cwbl wedi mynd, heblaw y tipyn stoc sydd yn y siop, ac erbyn heno, 'dydi ddim yn 'difar gen i—yn wir, yr ydw i'n teimlo'n ddiolchgar 'mod i wedi dal ati, achos daswn i wedi rhoi i fyny ddim ond wythnos yn ôl, mi faswn wedi colli'r cwbl. Ond mi ga'r cwbl yn ôl 'rwan, a llawer chwaneg. Fedrwn i yn 'y myw ffrwytho i ddeud wrthoch chi cyn heno, Mary, ond y mae popeth yn all right 'rwan. A llawer gwaith yr ydech chi wedi galw Capten Trefor yn hen Gapten y felltith' yntê, Mary? Ond alwch chi byth mono felly eto. Dyn iawn ydi'r Capten. Ond a dwad at y pwnc a siarad yn blaen—mae Sem Llwyd wedi taro ar y faen yng Nghoed Madog, Mary, hynny ydi, wyddoch, wedi dwad i blwm, a ŵyr neb be fydd ein cyfoeth ni, achos y Capten a finnau a Mr. Huws, Siop y Groes, bia'r holl waith. Na, ŵyr neb eto be fydd ein cyfoeth ni, Mary."
"Ond ydi o'n wir, Denman? Be os celwydd ydi'r cwbl a chithe wedi gwario'ch eiddo i gyd? O, diar! 'rydw i just yn sâl, ydi o'n wir, Denman?"
Yn wir, wraig bach? ydech chi'n meddwl na ŵyr Sem mo'r gwahaniaeth rhwng plwm a baw? Yn wir? mae cyn wired â'ch bod chithe'n eistedd yn y gader ene. Mi wn fod y newydd mor dda fel y mae'n anodd ei gredu, ond y mae'n eitha gwir—yr yden ni wedi'n gneud i fyny