Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/265

Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD XXXVIII

Cariad Newydd

TRA synfyfyriai Enoc Huws o flaen ei dipyn tân—oedd erbyn hyn bron diffoddi—ai'r "newydd da" gan Sem Llwyd am ddarganfod y plwm yng Nghoed Madog a lanwai ei feddyliau? 'Choelia i fawr! Cyn hyn y mae dyn wedi anghofio ei ymborth angenrheidiol—wedi herio cyngor a fforffedu serch ei rieni—wedi diystyru ei etifeddiaeth, a gwneud yn fach o'i einioes ei hun—a'r cwbl am fod rhyw elfen, neu egwyddor, neu deimlad yn ei galon a eilw yn GARIAD. Mae'r ffaith yn ddigrif ei gwala, ond ffaith ydyw er hynny. A phan gofiom nad ffyliaid y byd a orchfygwyd ganddo, ond, weithiau, goreuon a phigion ein hil, mae'n rhaid, ac yn weddus i ni, yr hen lanciau, dynnu ein het iddo, a chydnabod bod rhyw ddirgelwch llawer mwy ynddo nag y gallwn ei ddirnad na'i blymio. I un fel Enoc Huws, oedd, os oedd yn rhywbeth, " yn ddyn o fusnes," ac mor llygadog ag undyn, i wneud arian, gallesid tybio y buasai'r ffaith a wnaed yn hysbys iddo y noswaith honno—sef eu bod "wedi taro ar y faen" yng Nghoed Madog, yn ddigon i lenwi ei feddwl am bythefnos o leiaf. Ond, rhyfedd dweud, tra'r oedd ef yn myfyrio o flaen y tân, ni ddaeth "newydd da Sem Llwyd " unwaith ar draws ei feddwl. Nid oedd iddo le yn ei galon. Nid oedd ganddo ond un meddwl mawr—yn torri allan, y mae'n wir, i amryw gyfeiriadau a hwnnw oedd, i'r de ac i'r aswy, ôl a blaen—SUSAN TREFOR. Erbyn hyn hyhi oedd yn bopeth ganddo, ac ar wahân iddi hi, nid oedd gwerth mewn dim yn ei olwg. A mwyaf a welai ohoni, mwyaf y cymdeithasai â hi, tecaf, hawddgaraf, a gwerthfawrocaf yr âi hi yn ei fryd. Ar un adeg edrychasai arni fel trysor rhy werthfawr iddo ef byth allu gobeithio ei feddu. Ond yr oedd yr amgylchiadau wedi newid cryn lawer oddi ar hynny. Yr oedd ef ei hun yn gyfoethocach nag y bu erioed, a'i fasnach yn parhau i gynyddu—yr oedd ei